Mae amcanion y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn rhai fforddiadwy, meddai adroddiad newydd.
Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae penderfyniadau gwariant llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi hwb i gyllideb Cymru sy’n golygu bod yr amcanion o fewn cyrraedd.
Dangosa canfyddiadau Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, fod yr amcangyfrif ar gyfer y gwariant o ddydd i ddydd yn y flwyddyn nesaf £1.6 biliwn yn uwch na’r hyn y gwnaeth dadansoddwyr ei ragweld ddeufis yn ôl, cyn cyhoeddiad Canghellor y Deyrnas Unedig ar y gyllideb.
Bydd yna £2.5 biliwn ychwanegol i gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, a dyna’r grant bloc mwyaf ers y dechrau datganoli.
Ac eithrio cyllid Covid-19 yn 2021-22, bydd cyllideb refeniw Cymru yn tyfu £2 biliwn y flwyddyn nesaf, a £2.9 biliwn erbyn 2024-25, yn ôl yr adroddiad.
Mae ymchwilwyr yn disgwyl y bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn llyncu mwy na hanner y cynnydd sy’n cael ei ragweld.
Mae polisïau cychwynnol, megis prydau ysgol am ddim a darpariaeth gofal plant, sy’n rhan o’r cytundeb cydweithio, yn debygol o elwa o’r cyllid newydd hefyd.
“Fforddiadwy”
Yn ôl Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil yn Undeb Dadansoddi Cyllid Cymru’r Ganolfan, mae’r amcanion yn y cytundeb i’w gweld yn “gyraeddadwy” a “fforddiadwy”.
“Mae profiad y misoedd diwethaf wedi dangos unwaith eto’r effaith enfawr y gall polisïau cyllidol llywodraeth y Deyrnas Unedig ei chael ar ragolygon cyllideb Cymru,” meddai Guto Ifan.
“Mae’r newid a gafwyd yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at gynnydd mewn trethi a gwariant adrannol uwch wedi gweddnewid gallu Llywodraeth Cymru i fodloni pwysau gwariant ac ehangu gwasanaethau datganoledig yn ystod y blynyddoedd nesaf.
“Mae’r cilio a throi i ffwrdd o fwy na degawd o lymder cyllidol yn golygu bod polisïau yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn edrych yn gyraeddadwy ac yn fforddiadwy ar y cyfan.”
“Dewisiadau anodd”
Dadansoddwyd y cyllid a gafodd ei gadarnhau ar gyfer Cymru yn Adolygiad o Wariant 2021 Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Hydref, ynghyd â’r rhagolygon diweddaraf ar gyfer refeniw datganoledig, er mwyn asesu’r rhagolygon cyllid hyd at 2024-25.
Er gwaethaf yr ansicrwydd oherwydd y pandemig a dyfodiad amrywiolyn Omicron, mae’r adroddiad o’r farn fod cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ddigon ar y cyfan i dalu am y pwysau sy’n gysylltiedig â Covid-19 a mynd i’r afael â’r ôl-groniad cynyddol yn y rhestrau aros.
Gallai Gwasanaeth Iechyd Cymru dderbyn £530 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd yn ystod y tair blynedd nesaf, meddai’r adroddiad.
Er hynny, bydd y cynnydd hwn mewn gwariant cyfalaf ar y Gwasanaeth Iechyd, yn ogystal â buddsoddiadau oherwydd newid hinsawdd, yn arwain at ddewisiadau anodd o ran mathau eraill o wariant.
Mae’r adroddiad diweddaraf yn tynnu sylw at ragor o heriau yng ngwariant awdurdodau lleol, o ran effeithiau parhaol y pandemig, a’r angen am wariant ychwanegol mewn ysgolion.
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn rhybuddio y byddai “pwysau sylweddol ar gostau byw’r gaeaf hwn”, er ei bod hi’n ymddangos fod y Llywodraeth Dorïaidd yn troi eu cefnau ar y cyni a fu mewn lle ers degawd cyn y pademig.
Ychwanegodd Guto Ifan, mae’r “cwestiwn allweddol i Lywodraeth Cymru yw i ba raddau y dylai cyllid llywodraeth ganolog dalu am y pwysau ariannol hyn yn hytrach na thrwy gynnydd yn y dreth gyngor”.
“Nid oes amheuaeth y bydd y rhagolygon ar gyfer cyllid cartrefi yn heriol am beth amser i ddod,” meddai.
“Mae ein hadroddiad yn dangos sut mae penderfyniadau gwariant a wna canghellor y Deyrnas Unedig yn parhau i gael effaith bendant ar yr hyn y gall llywodraeth Cymru ei gyflawni ar gyfer ei dinasyddion.
“Mae hyn yn golygu, wrth feddwl am gynaliadwyedd tymor hwy gwasanaethau cyhoeddus Cymru a’r cynigion polisi newydd, fod yn rhaid i lunwyr polisi Cymru fod yn ymwybodol o’r newidiadau posibl yng nghyfeiriad polisïau cyllidol y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.”