Mae gwleidyddion Plaid Cymru yn galw ar y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg i gefnogi ymgyrch myfyrwyr i sefydlu swyddog Cymraeg llawn-amser ar gyfer Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Prifysgol Caerdydd sydd â’r nifer fwyaf o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith – dros 3,000 gan gynnwys pobl sy’n dysgu’r iaith – o holl brifysgolion Cymru.

Eisoes mae gan Undebau Myfyrwyr Prifysgolion Bangor, Aberystwyth ac, yn fwy diweddar, Abertawe, Swyddogion Materion Cymraeg llawn-amser.

Yn ystod cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn y Senedd heddiw (Rhagfyr 8), anogodd Cefin Campbell AS, Llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg, y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AS, i gefnogi’r ymgyrch drwy ysgrifennu at Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Myfyrwyr Caerdydd.

“Yn ôl llywydd undeb y myfyrwyr Cymraeg, byddai swyddog o’r fath yn gallu darparu gwasanaethau pwysig i fyfyrwyr yn y Gymraeg,” meddai Cefin Campbell ar lawr y siambr.

“[A hynny trwy] drefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o’r iaith, a sicrhau bod llais i siaradwyr Cymraeg yng ngweithredoedd yr undeb, a rhoi gofod i bobl ifanc, wrth gwrs, i ddod at ei gilydd i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol.

“Hefyd, mae’n sicrhau bod democratiaeth yn cael ei barchu gan fod y myfyrwyr wedi pleidleisio fwy nag unwaith yn y gorffennol o blaid y math hwn o gynnig.”

‘Mater pwysig’

Wrth ymateb fe ddywedodd Jeremy Miles ei fod yn fater “pwysig” ond mai “mater i Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr yw hyn”.

“Mae’n briodol bod gan fyfyrwyr gynrychiolaeth gyflogedig yn eu hundeb. Byddai hyn yn cyfateb i’r gynrychiolaeth ry’n ni’n gweld mewn undebau mewn prifysgolion eraill Cymru,” meddai.

“Fodd bynnag, os yw’r cynnig i sefydlu swydd lawn-amser i’r Gymraeg wedi ei basio yn unfrydol, fel rwy’n deall fod e wedi, byddai’n rhesymol disgwyl bod y penderfyniad hwn yn cael ei wireddu.”

Ar hyn o bryd mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cyflogi 7 swyddog sabothol llawn-amser, gyda galwadau ar gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf am Swyddog Materion Cymraeg llawn-amser.

Yn 2018 cafodd cynnig ei gymeradwyo yng Nghyfarfod Blynyddol Undeb y Myfyrwyr gyda’r bwriad o sefydlu’r rôl.

Fodd bynnag, yn dilyn diffyg cynnydd mewn trafodaethau rhwng myfyrwyr a’r Undeb i sefydlu’r swydd, cafodd cynnig pellach ei gymeradwyo yng Nghyfarfod Blynyddol yr Undeb fis diwethaf (Tachwedd 2021) oedd unwaith eto yn cefnogi sefydlu’r rôl.

‘Cydnabod hawliau ieithyddol’

Yn dilyn ymateb y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg fe ddywedodd Rhys ab Owen, AoS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru ei fod yn “hen bryd i Undeb Prifysgol Caerdydd” gael swyddog llawn-amser.

“Mae hen bryd i Undeb Prifysgol Caerdydd gydnabod hawliau ieithyddol y myfyrwyr Cymraeg,” meddai wrth Golwg 360.

“Maent wedi bod yn ddi-lais am flynyddoedd. Dwi’n falch iawn i gefnogi’r myfyrwyr wrth iddynt ymgyrchu am chwarae teg i’r Iaith Cymraeg yn ein prifddinas.”

Mae gan Brifysgol Caerdydd dros 30,000 o fyfyrwyr ac fe ddywedodd Heledd Fychan, AoS Canol De Cymru y byddai Swyddog yn fodd o hybu’r iaith i fyfyrwyr rhyngwladol.

“Bydda’i swyddog o’r fath nid yn unig yn sicrhau cefnogaeth a gwasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, ond hefyd gyda rôl allweddol o ran hybu a chefnogi dysgu’r iaith i fyfyrwyr o bedwar ban byd,” meddai wrth Golwg360.

Yn ystod sesiwn y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu heddiw (Rhagfyr 8) derbyniwyd tystiolaeth gan y sector addysg Gymraeg ac fe ofynnodd Mabon Dafydd, Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor, am gefnogaeth i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

“Yr hyn allai gael ei wneud i gefnogi myfyrwyr Cymraeg eu hiaith mewn prifysgolion yw trwy’r Undebau Myfyrwyr,” meddai Mabon

“Er enghraifft, ym Mhrifysgol Caerdydd yn benodol, mae’n dipyn o ffars nad oes Swyddog Cymraeg llawn-amser ac, fel prifddinas Cymru, gallai fod mwy o gefnogaeth yn dod gan y llywodraeth ar hyn.”

Bydd y cynnig nawr yn cael ei ystyried gan Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb Myfyrwyr Ddydd Iau nesaf (16eg o Ragfyr).

Galwadau o’r newydd am Swyddog Llawn Amser i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd

“Pam bod prifysgol fwyaf Cymru, prifysgol sydd ym mhrifddinas Cymru, ddim yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael yr un sylw?”
Hen adeilad y Brifysgol

Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn pleidleisio o blaid creu Swyddog Cymraeg llawn amser

Pasio’r cynnig yn dangos bod “myfyrwyr yn dechrau cael digon bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn wahanol i’r Saesneg”