Mae bron i un ym mhob pedair aelwyd yng Nghymru’n cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd, yn ôl arolwg newydd.

Yn ôl Sefydliad Bevan, does gan 39% o aelwydydd Cymru ddim digon o arian i brynu unrhyw beth oni bai am y nwyddau hanfodol maen nhw eu hangen o ddydd i ddydd.

Wrth gyfuno hynny ag amcangyfrifon gan Lywodraeth Cymru, mae Sefydliad Bevan yn awgrymu bod 165,000 o aelwydydd yn cael trafferth talu am nwyddau hanfodol.

Mae’r data, a gafodd ei gasglu drwy arolwg YouGov ar ran Sefydliad Bevan, yn dangos bod 33% o gartrefi Cymru wedi gorfod dechrau defnyddio llai o drydan a / neu dŵr ers dechrau’r haf, neu’n gorfod peidio cynhesu gymaint ar eu tai.

Mae 26% wedi gorfod prynu llai o fwyd hefyd.

Dywed Steffan Evans o Sefydliad Bevan fod yr argyfwng costau byw wedi “cyrraedd y penawdau’n barod y gaeaf hwn, ond bod y data diweddaraf yn dangos yn glir beth mae’n ei olygu i deuluoedd”.

“Mae nifer yr aelwydydd sy’n cael trafferth talu am eu costau sylfaenol nawr yn fyw na nifer yr aelwydydd yng Nghaerdydd, gyda theuluoedd yn wynebu caledi sylweddol,” meddai.

‘Arbennig o lwm’

Mae’r data yn amlygu pa mor arwyddocaol yw effaith yr argyfwng costau byw ar blant, hefyd.

Rhwng mis Mai a mis Tachwedd, dywedodd 6% o gartrefi gydag un plentyn eu bod nhw wedi gorfod dechrau prynu llai o fwyd i’w plant.

Yn yr un cyfnod, fe wnaeth 10% o dai gyda dau o blant orfod dechrau prynu llai o fwyd iddyn nhw.

Ar ben hynny, dywedodd 25% o gartrefi â dau blentyn eu bod nhw wedi gorfod dechrau prynu llai o eitemau megis dillad, teganau, llyfrau, a chlytiau i’w plant.

Wrth ymateb i’r data, dywedodd Alison Garnham, Prif Weithredwr y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, ei bod hi’n “syfrdanol” fod plant yng Nghymru’n mynd heb nwyddau hanfodol fel clytiau, teganau, tŷ cynnes, dillad, a bwyd, hyd yn oed, gan nad oes gan deuluoedd ddigon o arian i gael deupen llinyn ynghyd.

“Mae’r darlun yn arbennig o lwm ar gyfer rhieni sydd methu gweithio oherwydd bod ganddyn nhw anableddau neu eu bod nhw’n gofalu am blant ifanc,” meddai.

“Gydag ychydig iawn yn mynd tuag deuluoedd yng nghyllideb ac adolygiad gwariant ddiweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dylai Llywodraeth Cymru gynyddu eu cefnogaeth er mwyn eu hamddiffyn nhw rhag tlodi gwaeth.”

Cefnogaeth y cyhoedd

Mae’r data yn awgrymu bod y cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi rhai o weithredoedd Llywodraeth Cymru er mwyn helpu teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd dros y gaeaf.

Dywedodd 71% eu bod nhw’n cefnogi darparu arian brys i deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd yn sgil argyfwng neu golli incwm, 55% yn cefnogi rhoi cinio ysgol am ddim i blant, a 50% yn cefnogi cynnig gofal am ddim rhan amser i bob plentyn dros naw mis oed.

Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnwys ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ac ehangu’r ddarpariaeth gofal plant.

Ddoe (8 Rhagfyr), dywedodd Canolfan Llywodraethiant Cymru fod yr amcanion yn y cytundeb hwnnw’n “fforddiadwy” o ystyried y rhagolygon cyllidol ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

“O ystyried graddfa’r argyfwng sy’n wynebu teuluoedd Cymru dros y gaeaf a’r gefnogaeth boblogaidd tuag at nifer o’r polisïau sy’n rhan o Gytundeb Cydweithio Llafur / Plaid Cymru, mae gan Lywodraeth Cymru achos gwirioneddol i gyflymu gweithredu rhai o’r polisïau sydd wedi cael eu cyhoeddi’n barod er mwyn sicrhau bod gan deuluoedd y gefnogaeth orau y maen nhw ei hangen dros y gaeaf hwn,” meddai Steffan Evans o Sefydliad Bevan wedyn.

Amcanion cytundeb cydweithio’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru’n “fforddiadwy” – Canolfan Llywodraethiant Cymru

Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae penderfyniadau gwariant llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi hwb i ragolygon cyllidol Cymru