Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi cyhoeddi bydd yna £2.5 biliwn yn ychwanegol i gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.
Dyma’r bloc grant mwyaf i’r llywodraethau datganoledig ers y setliad datganoli yn 1999.
Fe fydd Llywodraeth yr Alban yn derbyn cynnydd o £4.5bn a Gogledd Iwerddon yn derbyn £1.6bn.
Fe wnaeth hefyd amlinellu’r gwariant o’r Gronfa Lefelu i Fyny a fydd yn cynnwys £110m yng Nghymru, £150m yn yr Alban, a £50m yng Ngogledd Iwerddon.
Cryfach
Yn ei ail gyllideb ers y pandmeig fe ddywedodd Rishi Sunak ei fod yn addo “economi gryfach y dyfodol” mewn “oes o optimistiaeth” i adfer y sefyllfa yn sgil y pandemig Covid 19.
Mynnodd nad oedd y llywodraeth “yn tynnu llinell o dan Covid” a rhybuddiodd bod “heriau o’n blaenau”.
Mae chwyddiant wedi cyrraedd 3.1% ac yn debygol o godi ymhellach i 4% erbyn y flwyddyn nesaf.
Cymru
Yn ogystal â chynyddu cyllideb Llywodraeth Cymru, bydd Cymru yn derbyn £120m ar gyfer prosiectau cysoni gwariant gydag ardal fel De Clwyd yn un o’r 100 o ardaloedd ar hyd y DU fydd yn elwa.
Fe gyhoeddodd hefyd y bydd Camlas Sir Drefaldwyn yn cael bron i £16m er mwyn ail agor rhannau o’r gamlas hanesyddol.
Bydd yna hefyd cynllun dan yr enw ‘Multiply’ yn mynd i’r afael i ddatblygu sgiliau rhifedd “ar draws y DU”.
Lefelu i fyny
Fe gyfeiriodd fod angen mynd i’r afael â “daearyddiaeth economaidd anwastad” sydd ym Mhrydain a bod hynny’n flaenoriaeth wrth ddod allan o’r “sioc economaidd waethaf a welsom erioed”.
- Bydd yna doriad 5% i dreth ar gwrw a seidr drafft wedi’i weini o gynwysyddion dros 40 litr.
- Canslo’r “cynnydd arfaethedig” mewn treth tanwydd.
- Cyfraddau is o Dreth Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau hedfan domestig yn unig i roi hwb i feysydd awyr lleol “a dod â phobl at ei gilydd ledled y DU”.
Cynydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol o £8.91 yr awr i £9.50 ar gyfer pobl dros 23 oed.
Fe allai gweithwyr ennill £1,000 yn ychwanegol y flwyddyn o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.