Bydd y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi ei Gyllideb heddiw (27 Hydref) gan roi addewid i greu “economi newydd” ar ôl y pandemig coronafeirws.
Mae disgwyl iddo gadarnhau biliynau o bunnoedd o gyllid ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd (GIG) a chynnydd mewn cyflogau i filiynau o weithwyr yn y sector cyhoeddus.
Bydd y Canghellor yn cyhoeddi ei gynlluniau treth a gwariant heddiw fel un sy’n paratoi “economi sy’n addas ar gyfer cyfnod newydd o optimistiaeth” wrth i’r genedl wella o galedi Covid-19.
Ar ôl 18 mis o wariant uchel, bydd Rishi Sunak yn amlinellu ei gynlluniau ar gyfer dod â benthyca dan reolaeth.
Mae disgwyl iddo gadarnhau cynnydd i’r “cyflog byw cenedlaethol” i £9.50 o fis Ebrill a dod a diwedd i’r polisi o rewi cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus.
Hyd yma, mae Gweinidogion wedi gwrthod dweud a fydd y cynnydd i weithwyr fel athrawon, nyrsys a swyddogion yr heddlu yn uwch na chwyddiant.
Yn ystod ei araith, mae disgwyl i Rishi Sunak ddweud: “Mae’r Gyllideb heddiw yn dechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer economi newydd ar ôl Covid.
“Economi o gyflogau uwch, sgiliau uwch, gwasanaethau cyhoeddus cryf, cymunedau bywiog a strydoedd mwy diogel.
“Economi sy’n addas ar gyfer cyfnod newydd o optimistiaeth.”
Ond gyda chostau byw yn codi, bydd rhai yn cwestiynu faint fydd ei Gyllideb yn helpu gweithwyr, gydag Yswiriant Gwladol yn codi 1.25%, y toriad i Gredyd Cynhwysol, a chwyddiant yn codi.
Bydd Rishi Sunak yn cadarnhau £5.9 biliwn arall mewn cyllid i helpu’r GIG i glirio’r ôl-groniad yn sgil Covid-19, ond mae ansicrwydd ynglyn a pha mor hir fydd hi’n gymryd i fynd i’r afael a’r rhestrau aros hir.
Mae’r Trysorlys wedi addo buddsoddiad ‘gwyrdd’ a pholisïau i fanteisio ar ryddid ar ôl Brexit ac mae wedi cynyddu bron i £7 biliwn o gyllid newydd i ailwampio trafnidiaeth leol.