Mae Palas Buckingham wedi cyhoeddi na fydd y Frenhines yn cynnal digwyddiad i arweinwyr byd yn ystod uwchgynhadledd Cop26 yn Glasgow.

Roedd disgwyl i’r Frenhines, sy’n 95 oed, deithio i’r Alban ar gyfer yr uwchgynhadledd ar newid hinsawdd ddydd Llun, 1 Tachwedd ond fe fydd hi nawr yn recordio neges fideo ar gyfer y rhai sy’n mynychu’r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham bod y Frenhines wedi cael cyngor meddygol i orffwys a’i bod yn “siomedig” na fydd hi’n gallu bod yno.

Mae’n debyg bod y Frenhines yn awyddus i Cop26 fod yn llwyddiant ac y bydd yn arwain at weithredu gan y gwledydd sy’n cymryd rhan. Y gobaith yw na fydd arweinwyr yn defnyddio ei habsenoldeb fel esgus i beidio mynychu’r uwchgynhadledd.

Yn ystod ymweliad a Chaerdydd ar 14 Hydref, roedd y Frenhines wedi awgrymu bod “angen gwneud yn lle dweud” wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Gwnaeth ei sylwadau wrth siarad ag Elin Jones, Llywydd y Senedd, a Duges Cernyw, wrth agor sesiwn newydd y Senedd.

Cafodd y Frenhines brofion yn yr ysbyty ar 20 Hydref a bu’n rhaid iddi ganslo ymweliad a Gogledd Iwerddon wythnos ddiwethaf.