Mae adroddiad gan yr RSPB yn datgelu bod pum achos o wenwyno neu saethu adar ysglyfaethus yng Nghymru llynedd.
Fe nododd yr adroddiad Birdcrime fod 137 o achosion hysbys ledled y Deyrnas Unedig, sef y nifer uchaf sydd wedi ei gofnodi ers 30 mlynedd.
Er gwaetha’r nifer uchaf o achosion, doedd dim ond dau erlyniad am droseddau erlid adar ysglyfaethus drwy’r Deyrnas Unedig i gyd.
Achosion Cymru
Ym Mhowys roedd pob un o’r achosion a gafodd eu cofnodi yng Nghymru, a’r sir honno hefyd oedd wedi cofnodi’r trydydd nifer uchaf o achosion o holl siroedd y Deyrnas Unedig dros y degawd diwethaf.
Aderyn y Barcud Coch, rhywogaeth oedd yn brin iawn ar un adeg, oedd yn cael ei erlid fwyaf yng Nghymru, gyda phedwar aderyn yn dioddef y llynedd.
Mae adar ysglyfaethus wedi eu gwarchod gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sy’n ei gwneud hi’n anghyfreithlon eu lladd neu eu hanafu yn fwriadol.
Mae’n debyg bod gwir nifer yr achosion o ladd adar ysglyfaethus yn llawer uwch, oherwydd bod llawer o droseddau sydd heb eu canfod neu heb eu hadrodd.
‘Pryder mawr’
Mae Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru, yn dweud bod y cynnydd mewn achosion o erledigaeth, yn enwedig gwenwyno, yn destun pryder.
“Mae cynnydd da wedi bod dros y tri degawd diwethaf i leihau nifer y troseddau yn erbyn ein hadar ysglyfaethus rhyfeddol,” meddai.
“Mae’r gostyngiad dramatig yn nifer yr wyau a’r cywion sy’n cael eu dwyn yn dangos bod gweithredu llymach yn gweithio.
“Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod adar fel y barcud coch yn adennill eu tir, er eu bod unwaith ar fin diflannu.
“Fodd bynnag, mae’r cynnydd mewn erledigaeth, ac yn enwedig achosion o wenwyno, yn bryder mawr.
“Rydym ni’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella’r cydlynu rhwng asiantaethau gorfodi er mwyn rhoi diwedd ar y troseddau dychrynllyd hyn yn erbyn bywyd gwyllt.”