Mae siaradwyr Cymraeg sy’n dymuno cael profion gyrru drwy gyfrwng yr iaith yn wynebu anghyfiawnder, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Fe ddaeth Aled Roberts i’r casgliad hwnnw mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Hydref 27), ar ôl iddo ymchwilio i weithrediad Cynllun Iaith Gymraeg yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA).
Roedd yr adroddiad yn nodi bod y ganran o brofion gyrru cyfrwng Cymraeg a gafodd eu canslo bron i dair gwaith yn uwch na’r canran canslo ar gyfer profion cyfrwng Saesneg.
Hefyd, roedd yn rhaid aros pump i chwe wythnos yn hirach cyn sefyll prawf gyrru ymarferol yn y Gymraeg o’i gymharu ag un Saesneg, ac os yw unigolyn yn dymuno gwneud hynny, rhaid iddo nodi bod ganddo ‘ofynion arbennig’.
Mae Cynllun Iaith y DVSA yn nodi eu bod nhw’n “trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal”, a bod profion gyrru yn y Gymraeg ar gael ym mhob canolfan brofi yng Nghymru
‘Derbyn triniaeth lai ffafriol’
Ym mis Medi 2019, fe benderfynodd Comisiynydd y Gymraeg gynnal ymchwiliad ar ôl i nifer o bobol fynegi pryderon ar gyfryngau cymdeithasol ynglŷn â threfnu profion gyrru drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae yna ddeng mlynedd ers i Senedd Cymru basio deddf yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a sefydlu’r egwyddor o hawliau i ddefnyddio’r iaith,” meddai Aled Roberts wrth gyhoeddi’r adroddiad.
“Ond fel mae’r achos hwn yn ei brofi, mae yna dal lawer iawn gormod o eithriadau sy’n tanseilio’r amcanion hyn.
“Daeth yn amlwg wrth i mi gynnal yr ymchwiliad nad yw arferion y DVSA yn dod yn agos at gwrdd â’r ymrwymiad y mae wedi ei wneud i bobol Cymru yn ei Gynllun Iaith Gymraeg.
“Realiti’r sefyllfa yw bod ein pobol ifanc yn cael eu gorfodi i dderbyn triniaeth lai ffafriol os ydynt eisiau gwasanaeth Cymraeg yng Nghymru heddiw, a’u bod yn cael eu gorfodi i ddatgan ‘gofynion arbennig’ os ydynt am ddefnyddio’r iaith.
“Mae’n hawdd iawn rhagweld sut y gallai profiad mor negyddol o oedran ifanc gael effaith negyddol ar eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg wrth fynd yn hŷn.”
‘Dylanwad ar ddewis iaith unigolion’
Mae’r ymchwil gan y Comisiynydd hefyd yn awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn llai tebygol o ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg os ydyn nhw’n credu y byddai hynny’n arwain at unrhyw oedi, annifyrrwch, neu drafferth.
“Y neges sy’n cael ei rhoi i’n pobol ifanc yw y dylent ddefnyddio’r Saesneg os ydynt am sefyll eu prawf gyrru,” meddai.
“Ac o edrych ar ba mor isel yw’r niferoedd sy’n sefyll eu prawf drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n amlwg fod hyn yn cael dylanwad ar ddewis iaith unigolion.
“Yn sicr, nid yw’r hyn sy’n digwydd yn adlewyrchu addewid cyhoeddus y DVSA i drin y ddwy iaith yn gyfartal.”
Yn ei adroddiad, mae’r Comisiynydd yn argymell y dylai’r DVSA gynnal adolygiad o’r ffordd y caiff profion cyfrwng Cymraeg eu cynnal a’u bod nhw’n paratoi cynllun gweithredu er mwyn sicrhau bod profion gyrru ymarferol Cymraeg yn cael eu cynnig yn rhagweithiol ac yn gyfartal yn y dyfodol.