Mae aelod seneddol Llafur Pontypridd wedi galw am sicrwydd ynghylch Deddf Iaith Wyddeleg yn ystod trafodaeth ynghylch Bil Gogledd Iwerddon yn San Steffan.
Yn ystod y drafodaeth, cododd Alex Davies-Jones bryderon ynghylch yr amser mae’n ei gymryd i basio deddfwriaeth i sicrhau sefydlogrwydd o ran rhannu grym yn Stormont.
Mae rhai am weld dwy brif swydd Llywodraeth Gogledd Iwerddon, sef y prif weinidog a’i ddirprwy, yn cael eu cyfuno a hynny er mwyn osgoi “gwleidyddiaeth yn seiliedig ar ofn” yn ystod ymgyrch etholiadau’r Cynulliad.
Cafodd y cynnig i gyfuno’r ddwy swydd ei gyflwyno gan Stephen Farry, aelod seneddol Alliance, fel rhan o’i welliant i Fil Gogledd Iwerddon (Gweinidogion, Etholiadau a Deisebau o Bwys).
Byddai ei gynnig yn gweld y prif weinidog a’i ddirprwy yn dod yn gyd-brif weinidogion.
Pryderon
Ond mae 22 mis bellach ers i’r Bil ddechrau cael ei drafod, ac mae Alex Davies-Jones yn poeni bod gwleidyddion yn “cerdded yn eu cwsg tuag at argyfwng gwleidyddol”.
“Cafodd y Tŷ addewid o gomisiynu Deddf Iaith Wyddeleg erbyn diwedd mis Hydref 2021, rydym yno bellach a does dim golwg ohoni, ac mae’r ysgrifennydd gwladol yn gwrthod rhoi dyddiad yn warth ac yn frad o safbwynt pobol Gogledd Iwerddon,” meddai.
“Hoffem glywed ymrwymiad cadarn gan yr ysgrifennydd gwladol i’w ruthro drwodd i Dŷ’r Arglwyddi ac amserlen glir i weithredu arno.
“Allwn ni ddim aros misoedd pan mai wythnosau sydd gennym, efallai…
“Byddwn i’n dweud nad yw’r ansefydlogrwydd y mae’r Bil hwn yn ceisio mynd i’r afael ag e’n rhannol wedi deillio o nunlle, ac rwy’n ofni bod yr oedi wrth ei gyflwyno’n symptom o ddulliau’r Llywodraeth o safbwynt Gogledd Iwerddon.”
Cafodd y Bil ei dderbyn heb wrthwynebiad ar y trydydd darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin, ac fe fydd yn cael sylw pellach gan Arglwyddi maes o law.