Mae naturiaethwr blaenllaw yn dweud bod angen i’r trafodaethau fydd yn digwydd yn uwchgynhadledd COP26 fod yn “uchelgeisiol iawn”.

Rhwng Hydref 31 a Thachwedd 12, mae disgwyl y bydd dros 20,000 o bobol yn mynychu’r uwchgynhadledd yn Glasgow, gydag arweinwyr gwledydd yn trafod uchelgeisiau ac yn gosod targedau amgylcheddol ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Mae’r uwchgynhadledd, sy’n cael ei threfnu gan y Cenhedloedd Unedig, yn cael ei chynnal yn flynyddol, a dyma fydd y tro cyntaf iddi fod yn y Deyrnas Unedig.

Angen bod yn ‘uchelgeisiol’

Gyda sgil effeithiau newid hinsawdd yn cynyddu, mae galw dybryd ar wleidyddion i fod yn llym wrth ddiwygio Cytundeb Paris eleni.

Mae’r naturiaethwr o Ddyffryn Nantlle, Twm Elias, yn credu bod angen i’r trafodaethau yn Glasgow adlewyrchu gwir ddifrifoldeb y sefyllfa ynglŷn â newid hinsawdd.

Y naturiaethwr Twm Elias

“Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn uchelgeisiol iawn,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r sefyllfa yn cael ei chydnabod bellach, ac mae hi mor ddifrifol, ac yn mynd i fod yn gynyddol ddifrifol nes bod rhaid gweithredu rŵan.

“Os na, bydd trafferthion enbyd yn y dyfodol – trafferthion sy’n mynd i effeithio’n bennaf ar y gwledydd tlawd.

“Ond mae hynny ynddo’i hun yn mynd i gael effaith ryfeddol – yn nhermau’r argyfwng ymfudo a diffyg bwyd – arnom ni yma hefyd.”

Effaith

“Mae o’n mynd i effeithio ar bawb,” meddai Twm Elias.

“Rydyn ni’n rhan o’r economi fyd-eang, a does gennym ni yma yng Nghymru ddim llawer o reolaeth dros yr economi ehangach.

“Mae hynny yn nwylo’r Llywodraeth yn Llundain, a phrin iawn ydi’r adnoddau a’r gallu sydd gan Senedd Cymru i wneud fawr ddim, sydd yn mynd i gael effaith ddirnadwy.

Gweithredu

Bydd arweinwyr dros 100 o arweinwyr gwledydd yn ymddangos yn yr uwchgynhadledd ym mis Tachwedd, gan gynnwys Arlywydd America, Joe Biden, a Phrif Weinidog Awstralia, Scott Morrison.

Mae Twm Elias yn nodi bod rhaid rhoi pwysau ar yr arweinwyr hynny yn enwedig i wneud mwy wrth daclo newid hinsawdd.

“Dw i’n gobeithio fedran nhw roi pwysau ar wledydd fel Awstralia, Tsieina, America, a Brasil hefyd i newid eu ffyrdd” meddai.

“Mae’n fater anodd iawn i wneud hynny, ond does dim dewis – mae’n rhaid gwneud rhywbeth.

“Mae angen pwyso a tharanu ymlaen cymaint â phosib am yr anghyfiawnder a’r peryglon maen nhw’n eu hachosi drwy eu diffyg ymateb i’r argyfwng hinsawdd.”

‘Y gymuned amaethyddol ydi’r ffordd ymlaen’

O ran y gweithredu fydd yn digwydd yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, mae Twm Elias yn teimlo bod angen ystyried yn fanwl yr effaith ar bobol, yn enwedig y gymuned amaethyddol, wrth lunio polisïau.

“Mae eisiau mwy na chyfathrebu â chymdeithasau ac yn y blaen,” meddai.

“Mae angen ymgynghoriad cyhoeddus hefyd oherwydd mae cymaint o bolisïau yn mynd i gael effaith ar bobol a’u bywoliaeth, yn arbennig yn y sector amaethyddol.

“Yn fan hynny y bydd dipyn go lew o newidiadau amgylcheddol yn digwydd drwy bolisi.

“Er enghraifft, mae gennych chi’r polisïau plannu coed, sydd yn iawn, ond mae angen bod yn llawer mwy sensitif i anghenion y gymdeithas amaethyddol, yr effaith ar ein diwylliant ni, ac wrth gwrs, i osgoi dan unrhyw amgylchiadau leihau gallu cymuned amaethyddol i oroesi.

“Dw i’n tybio bod y polisi yma sydd gan gwmnïau rhyngwladol, sef prynu ffermydd i wneud i fyny am eu hôl troed carbon, yn mynd i chwalu cymunedau.

“Y diffyg mawr ydi bod cymaint o bolisïau o’r fath yn iawn o ran eu hecoleg a’u heffeithiau amgylcheddol, ond maen nhw’n anwybyddu pwysigrwydd pobol yn y fformiwla.

“Y gymuned amaethyddol ydi’r ffordd ymlaen i reoli’r tir yn y ffordd fwyaf cytbwys a chynhyrchiol o ran diogelu’r amgylchedd.”