Mae ymgyrchwyr yn dweud eu bod yn “siomedig” bod aelodau seneddol wedi methu â chefnogi ymgyrch i roi dyletswydd cyfreithiol ar gwmnïau dŵr i atal carthion amrwd rhag cael eu harllwys i afonydd.

Maen nhw’n pwyso ar gwmnïau dŵr i dalu i adfer arfordir Lloegr ar ôl gollwng carthion mewn afonydd.

Yr wythnos ddiwethaf, pleidleisiodd aelodau seneddol o 268 i 204 i anghytuno â gwelliant i Fil yr Amgylchedd a gafodd ei gyflwyno yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Roedd y Bil yn ceisio gosod dyletswydd newydd ar gwmnïau dŵr i leihau gollyngiadau carthion amrwd i afonydd a dangos gostyngiadau yn y niwed sy’n cael ei achosi gan y gollyngiadau.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi adrodd bod carthion amrwd wedi’u rhyddhau i ddyfroedd ac afonydd arfordirol yn Lloegr dros 400,000 o weithiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae hyn yn “annerbyniol”, yn ôl yr wrthblaid.

“Mae pobol yn iawn i fod yn flin ac wedi cynhyrfu ynglŷn â chyflwr ofnadwy afonydd Lloegr,” meddai Luke Pollard, ysgrifennydd cysgodol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan.

“Does yna’r un afon yn Lloegr mewn cyflwr iach a does dim gwelliannau wedi bod ers 2016.

“Mae’r Llywodraeth ar fai am ganiatáu i gwmnïau dŵr arllwys carthion amrwd i’n hafonydd a’n môr.

“Dylai’r Ceidwadwyr wyrdroi eu penderfyniad i rwystro gwelliant Bil yr Amgylchedd ar frys fel bod cwmnïau dŵr yn cael eu gorfodi i leihau faint o garthion y maent yn eu pwmpio i’n hafonydd a’n moroedd.

“Nid yw’r miliynau sy’n mynd i gyfranddalwyr yn gwneud dim i helpu i lanhau ein hafonydd a’n moroedd.

“Dylai’r Torïaid ddysgu o record a phrofiad Llywodraeth Lafur Cymru, sydd wedi gallu gofyn am systemau draenio cynaliadwy i leihau’r llwyth ar systemau carthion a gwneud buddsoddiad i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol.”

‘Dyletswyddau cyfreithiol llymach’

Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog: “Rydym yn cytuno’n llwyr fod methiant presennol cwmnïau dŵr i leihau gollyngiadau carthion yn ddigonol yn annerbyniol,” meddai llefarydd ar ran y prif weinidog Boris Johnson.

Ychwanegodd y llefarydd fod bwriadau’r mesurau sy’n cael eu gwthio gan Dug Wellington yn Nhŷ’r Arglwyddi “eisoes yn cael eu cyflawni” ym Mil yr Amgylchedd.

Mae’r gwelliant a gafodd ei gyflwyno “yn dal heb ei neilltuo”, ond “mae’r asesiadau cychwynnol dros £150bn a byddai hynny’n golygu bod unigolion – pob un ohonom yn drethdalwyr – yn talu miloedd o bunnoedd yr un o bosibl o ganlyniad”.

“Felly nid yw’n iawn llofnodi siec wag ar ran cwsmeriaid heb ddeall y cyfaddawdau a’r biliau a fyddai’n gysylltiedig,” meddai’r llefarydd.

Ond honnodd y bydd “dyletswyddau cyfreithiol llymach” yn cael eu rhoi ar gwmnïau dŵr a “byddwn yn parhau i wrando ar ASau sydd â phryderon dilys”.

Bydd y bil yn mynd gerbron yr Arglwyddi i graffu arno eto ar ôl i’r gwelliant gael ei wrthod.