Mae myfyrwraig o wlad Pwyl wnaeth syrthio mewn cariad gyda Chymru yn ystod ei chwrs gradd yng ngwlad Pwyl, wedi symud i Gymru i fod gyda’i gŵr.

Aeth Karolina Jones, sy’n wreiddiol o Piła yng ngogledd orllewin gwlad Pwyl, i Brifysgol Adam Mickiewicz yn Poznań er mwyn astudio Ieitheg Saesneg ac Astudiaethau Celtaidd.

Fel rhan o’i chwrs, mi wnaeth astudio’r Gymraeg a dechreuodd ddangos diddordeb yn nyfodol yr iaith.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mi fagodd ddigon o hyder i siarad Cymraeg gyda Kyle Jones, oedd ar ymweliad â Phrifysgol Karolina fel darlithydd gwadd.

Buon nhw’n canlyn am ddwy flynedd, cyn i Karolina symud i Gymru yn 2019, cyn priodi y llynedd.

Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg yng ngwlad Pwyl, mae Karolina bellach yn mynychu cwrs lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae hi hefyd wedi gwneud enw iddi hi ei hun fel arlunydd gweledol.

‘‘Roedd y brwydrau hanesyddol ac ieithyddol y mae Cymru wedi’u hwynebu yn fy atgoffa o hanes gwlad Pwyl, ac o ganlyniad, dechreuais deimlo’n agos at Gymru,” meddai.

“Er cymaint dw i’n caru fy nheulu, fy ffrindiau, fy niwylliant a fy ngwlad, dw i’n teimlo 100% fy hun yng Nghymru.

‘‘Dw i’n mwynhau dysgu mewn dosbarth rhithiol, achos dw i’n gallu troi fy ngliniadur ymlaen a dechrau’r dosbarth.

“Does dim rhaid meddwl am deithio ac mae hynny’n arbed amser.

“Ro’n i’n poeni na fyddwn i’n gallu deall unrhyw un, oherwydd y microffonau a’r acenion gwahanol oedd gan bobol, ond ces i fy synnu, ac ro’n i’n hapus fy mod i’n gallu deall pawb.’’

‘Croeso’

Ers symud i Gymru, dywed Karolina ei bod wedi cael ei chroesawu gyda breichiau agored.

‘‘Dw i wrth fy modd fy mod i’n gallu siarad gyda fy ngŵr a’i deulu yn Gymraeg,” meddai.

“Mae gallu siarad Cymraeg wedi golygu bod lle arall i mi yn y byd ar wahân i fy ngwlad fy hun.

“Pan dw i’n siarad Cymraeg gyda rhywun, dw i’n teimlo fy mod i’n gwneud ffrind newydd.

“Mae dysgu iaith yn golygu ymrwymiad, ond dydy o ddim yn amhosib.

“Peidiwch â chymharu eich hun ag eraill, dewch o hyd i’ch dull eich hun a sicrhewch fod y Gymraeg mor fyw â phosibl yn eich meddwl.’’