Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru wedi galw ar yr Ysgrifennydd Addysg i ymyrryd yn y penderfyniad i gau tair ysgol gynradd yng Nghwm Tawe.
Fe wnaeth cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot bleidleisio ddydd Mercher diwethaf (Hydref 20) i gau ysgolion cynradd Alltwen, Godre’r Graig a Llangiwg.
Bydd ysgol “super” cyfrwng Saesneg ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed yn cael ei sefydlu yn lle’r tair ysgol, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf mewn ymgynghoriad cyhoeddus.
Roedd Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi lambastio’r penderfyniad “annemocrataidd” yr wythnos ddiwethaf, ac mae hi nawr yn galw ar yr Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles i gadw’r ysgolion ar agor.
Galwadau’r Aelod
Yn ei llythyr, mae Sioned Williams yn cyfeirio at y “gwrthwynebiad llethol yn lleol” i’r cynlluniau, sy’n “mynd yn groes” i bolisi’r Llywodraeth.
“Mae’r cynlluniau hyn yn gwbl ddiffygiol am amryw o resymau ac yn mynd yn groes i nifer o amcanion polisi’r Llywodraeth,” meddai.
“Rwyf felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn y penderfyniad hwn.
“Mae’r penderfyniad hwn yn amhoblogaidd iawn yn lleol ac yn cael ei ystyried yn ddirmygus ac yn annemocrataidd.
“Mae mwyafrif llethol y rhieni a’r preswylwyr sydd wedi ymateb i’r ymgynghoriad yn gwrthwynebu’r cynlluniau.
“Credaf fod anwybyddu y lefel sylweddol hwn o wrthwynebiad lleol yn gam gwag gan y Cyngor ac yn awgrymu nad ydyn nhw’n cymryd safbwyntiau pobol leol – eu hetholwyr eu hunain – o ddifrif.”
Effaith ar y Gymraeg
Mae Sioned Williams hefyd yn mynegi pryderon y byddai’r cynlluniau “yn tanseilio strategaeth Cymraeg 2050” Llywodraeth Cymru.
“Mae ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn nogfen y Cyngor ei hun yn nodi bod cwymp sylweddol wedi bod mewn siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011 yng Nghwm Tawe,” meddai yn y llythyr.
“Y tebygolrwydd yw y bydd y golled yn parhau yn wyneb diffyg camau adfer iaith yn yr ardal.
“Bydd y cynllun hwn yn cyfrannu at barhau’r golled yn ystod y ddeng mlynedd nesaf a’r dyfodol yn groes i amcanion strategol y Llywodraeth a’r Cyngor ei hunan.”
“Mae’r penderfyniad yn ddiffygiol o bob ongl ac fe fyddai’n cael effaith niweidiol ar addysg leol, y gymuned leol, ein disgyblion mwyaf difreintiedig a’r Gymraeg.”