Dim ond oherwydd nad yw’r sefydliad yn gwybod beth ddylai ddisodli’r “Ymerodraeth” mae anrhydeddau Prydeinig yn dal i gynnwys y gair, yn ôl y gantores ddu Joan Armatrading.

Daw ei sylwadau ar ôl iddi dderbyn CBE am ei gwasanaeth i’r byd cerddoriaeth, i elusennau a hawliau cyfartal.

Bu’n gantores ers pum degawd ac yn ymddiriedolwr y Brifysgol Agored ac Ymddiriedolaeth y Tywysog, ac yn llywydd Ciniawau Dynes y Flwyddyn rhwng 2005 a 2010.

Mae hi’n dweud ei bod hi wedi cael ei “lefelu i fyny” gan ei bod hi eisoes wedi derbyn MBE yn 2001.

Dywed nad yw hi’n deall y rhai sy’n beirniadu anrhydeddau Prydeinig, ond mae hi’n cydnabod fod y gair “Ymerodraeth” a’r hyn y mae’n sefyll amdano yn broblem i rai.

“Mae Commander of British Excellence yn gweithio i fi,” meddai. “Dydy Ymerodraeth ddim yn dod i mewn i’r peth.”

Ers cyhoeddi ei halbwm cyntaf yn 1972, mae hi wedi cyhoeddi dros ugain o albymau eraill, ac mae ei chaneuon mwyaf adnabyddus yn cynnwys Love And Affection a Drop The Pilot.

‘Sioc’

“Mae hi wir yn wych derbyn hyn – fe ges i MBE yn 2001 ac roedd hynny’n sioc, ond mae hyn yn sioc eto oherwydd do’n i wir ddim yn disgwyl cael fy ‘lefelu i fyny’ fel mae’r Llywodraeth yn ei ddweud,” meddai yng nghastell Windsor.

“Dw i wedi dweud o’r blaen, ac fe ddyweda i eto, mae pob gwlad yn anrhydeddu ei thrigolion fel rhyw fath o werthfawrogiad sy’n dweud ‘Dyma rydyn ni’n ei feddwl o’r hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud, fe gewch chi hwn’, a dw i ddim yn deall pobol sy’n credu bod hynny’n broblem.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw’r Ymerodraeth yn bodoli, rydyn ni’n gwybod hynny, mae hynny i gyd wedi mynd, dydy e ddim yn bodoli, ond roedd e’n arfer bodoli.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod nad oedd e cweit y peth iawn i’w wneud, rydyn ni’n gwybod hynny, ond dydy hynny ddim yn golygu na all gwlad wobrwyo ei dinasyddion o hyd.

“Ac yn y pen draw, byddan nhw’n creu rhywbeth sy’n dileu’r enw ‘Ymerodraeth’ oherwydd dw i’n credu mai dim ond am nad ydyn nhw’n gallu meddwl am yr hyn ddylai ddod nesaf mae hyn, a wyddoch chi, mae gan bawb farn ynghylch beth ddylai hynny fod, dyna pam nad oes modd ei ddatrys.”