Roedd rhan trefnydd hediad y pêl-droediwr Emiliano Sala a’i beilot David Ibbotson yn y daith “yn fater o waith papur”, yn ôl ei gyfreithwyr.
Mae David Henderson, dyn 67 oed o Swydd Efrog, yn gwadu peryglu diogelwch yr awyren oedd yn cludo Sala rhwng Caerdydd a Nantes yn Llydaw pan blymiodd i’r Sianel ger ynys Guernsey fis Ionawr 2019, gan ladd yr Archentwr a’i beilot.
Roedd Henderson, gweithredwr yr awyren oedd yn gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw arni ac am ei llogi ar ran y perchennog, wedi trefnu dwy daith rhwng Caerdydd a Nantes ar gyfer yr asiant Willie McKay, gan fod ei fab Mark McKay yn asiant oedd yn gweithio ar drosglwyddiad Sala i Glwb Pêl-droed Caerdydd o Nantes.
Mae’r erlyniad yn honni bod Henderson yn “ddiofal” a’i fod e wedi rhoi’r awyren mewn perygl wrth gyflogi’r peilot David Ibbotson, gan fod hwnnw heb drwydded ddilys i hedfan yr awyren, a doedd ganddo fe mo’r hawl i’w hedfan yn y nos.
Ond “mater o waith papur” oedd peidio â sylwi ar y rhain i gyd, yn ôl cyfreithwyr Henderson ac maen nhw’n dadlau nad oedd e wedi peryglu’r awyren er nad oedd e wedi dilyn y canllawiau cywir.
Roedd David Ibbotson yn beilot profiadol oedd wedi hedfan awyrennau am fwy na 3,500 o oriau i gyd, a’i gyfrifoldeb e oedd sicrhau taith ddiogel, meddai un cyfreithiwr wrth Lys y Goron Caerdydd.
Dywedodd mai arian yw’r unig wahaniaeth rhwng trwydded fasnachol a thrwydded breifat, a bod yr un yn wir am Dystysgrif Gweithredwr Awyr, rhywbeth nad oedd gan Henderson oedd yn golygu nad oedd e’n gallu derbyn arian am drefnu teithiau.
Wrth ymbil ar y rheithgor i drin ei gleient yn deg, dywedodd y cyfreithiwr fod David Henderson “yn 67 oed, yn ddyn teulu, yn dad, yn dad-cu, yn briod ers 30 mlynedd, yn gyn-swyddog yr Awyrlu, yn ddyn busnes, yn beilot a chanddo [brofiad o] fwy nag 11,000 o oriau yn hedfan… ar lawer ystyr, yn union fel unrhyw un ohonoch chi”.
Ond dywedodd yr erlynydd “nad oedd y gwiriadau mwyaf sylfaenol wedi cael eu cwblhau”.
“Doedd dim gwaith papur, dim hyd yn oed manylion aelodau agosa’r teulu,” meddai.
“Ac wrth gwrs, does dim cofnodion oherwydd fyddai yna ddim pe baech chi’n gwybod nad oedd y peilot roeddech chi’n ei gyflogi’n gymwys.
“Doedd yr hyn wnaeth e yma ddim yn ddamwain.
“Rydyn ni’n dweud fod yr hyn wnaeth e yma yn fwriadol ac yn ddiofal.
“Roedd hwn yn sefydliad analluog, heb ddogfennau, yn creu risg ac yn anonest.”
Mae’r achos yn parhau.