Roedd Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn y dorf wrth i dîm pêl-droed Wrecsam golli o 3-2 ym Maidenhead yn y Gynghrair Genedlaethol.

Llwyddon nhw i daro’n ôl ar ôl bod ar ei hôl hi o 2-0 yn gynnar yn y gêm, ond daeth gôl fuddugol y tîm cartref gan Josh Kelly chwarter awr cyn y chwiban olaf.

Roedd Wrecsam i lawr i ddeg dyn erbyn hynny wrth i Bryce Hosannah weld cerdyn coch am dacl flêr ar Jay Mingi.

Daeth gôl gyntaf Maidenhead ar ôl 19 munud wrth i Kane Ferdinand benio’r bêl i’r rhwyd ger y postyn agosaf.

Dyblodd Mingi fantais ei dîm funudau’n ddiweddarach.

Gydag un dyn yn llai ar y cae, daeth gôl gyntaf Wrecsam toc cyn yr egwyl, wrth i Paul Mullin sgorio’i seithfed gôl y tymor hwn.

Roedden nhw’n gyfartal ar ôl 56 munud wrth i Jordan Davies rwydo.

Ond aeth y bêl i gornel isa’r rhwyd oddi ar droed Kelly i gipio’r triphwynt i anfon y perchnogion adre’n siomedig ar eu hymweliad cyntaf i weld eu tîm yn chwarae.