Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi curo Estonia o 4-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd gerbron y dorf fwyaf erioed i’r tîm cenedlaethol.
Daw’r fuddugoliaeth yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd wrth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru lansio strategaeth newydd i dyfu gêm y merched dros y pum mlynedd nesaf.
Roedd tîm Gemma Grainger ar y blaen o 1-0 ar yr egwyl ar ôl i Angharad James rwydo, cyn i Helen Ward, Natasha Harding a’r capten Sophie Ingle sgorio yn yr ail hanner.
Mae’r dorf o 5,455 yn curo’r record flaenorol o 5,053 yn y gêm yn erbyn Lloegr yn yr un gystadleuaeth yng Nghasnewydd yn 2018.
Dydy Cymru erioed wedi cymhwyso ar gyfer twrnament, ond maen nhw’n ail yn eu grŵp, ddau bwynt y tu ôl i Ffrainc.
Manylion y gêm
Rhedodd Angharad James at y bêl oddi ar bàs Sophie Ingle i roi Cymru ar y blaen ar ôl 26 munud.
Sgoriodd Ward gôl rhif 44 dros Gymru yn fuan wedi’r egwyl ar ôl derbyn y bêl gan Rhiannon Roberts, a daeth y drydedd gan Harding o’r cwrt cosbi oddi ar groesiad Ceri Holland i’w gwneud hi’n 3-0.
Daeth y gôl olaf gan Ingle yn yr amser a ganiateir am anafiadau, wrth iddi guro dwy o wrthwynebwyr cyn rhwydo.
Mae Cymru bellach wedi curo Kazakhstan (6-0) ac Estonia ddwywaith (1-0 oddi cartref) ac wedi cael gêm gyfartal (1-1) yn erbyn Slofenia fel bod ganddyn nhw ddeg pwynt.
Strategaeth newydd
Daw’r fuddugoliaeth ar y diwrnod mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio strategaeth ar gyfer 2021-2026 i dyfu gêm y merched.
Nod y strategaeth Ein Cymru: Amdani Hi yw “creu’r amgylchedd, y strwythurau cymorth a’r cyfleoedd gorau i gyflymu twf pêl-droed y merched er mwyn iddo gyflawni’i botensial llawn”.
Mae’r strategaeth yn amlinellu’r weledigaeth o ysbrydoli hyder ymhlith merched i fod y gorau y gallan nhw fod.
Fis diwethaf, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu gweledigaeth a chynllun strategol newydd, ‘Our Wales, Ein Cymru’ sy’n fap o’r llwybr y mae pêl-droed yng Nghymru am ei ddilyn ac sy’n rhoi ffocws clir a manwl i ddyblu maint gêm y merched.
Yn y blynyddoedd diwethaf, gwelodd y Gymdeithas dwf o 50% yn y nifer sy’n cymryd rhan, a bellach mae dros 10,000 o ferched yn chwaraewyr cofrestredig.
Gosododd y Gymdeithas nod uchelgeisiol i ddyblu’r nifer yma a chael 20,000 o ferched yn chwarae pêl-droed erbyn 2026.
Mae ymrwymiad Cymdeithas Bel-droed Cymru i ddyblu gêm y merched nid yn unig yn cynnwys dyblu’r nifer sy’n cymryd rhan, ond ymrwymiad hefyd i ddyblu nifer y cefnogwyr a buddsoddiad i gyflymu twf gêm y merched ymhellach.
‘Hanner cyntaf ein gêm yn unig’
“Hanner cyntaf ein gêm yn unig yw hyn, a chyda mwy o fuddsoddiad a ffocws gan y Gymdeithas, ein nod yw manteisio ar dwf a momentwm diweddar,” meddai Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Rydym ni’n ymdrechu i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol drwy dîm cenedlaethol Cymru a chreu cyfleoedd ac amgylchedd lle mae merched wir yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn mewn camp sydd yno i bawb.”
Fel yr eglura Noel Mooney, y prif weithredwr, pêl-droed y merched yw’r gamp sy’n tyfu gyflymaf ledled Ewrop a’r maes sy’n tyfu fwyaf ym myd pêl-droed yng Nghymru.
“Rydym ni wedi gosod targed uchelgeisiol i ddyblu’r nifer sy’n cymryd rhan a chael 20,000 yn chwarae erbyn 2026,” meddai.
“Ac er mwyn i ni sicrhau bod y gêm yn cyflawni’i photensial, rydym ni’n buddsoddi mwy fel canran o’n trosiant yn rhaglen y merched nag unrhyw wlad arall ledled Ewrop.”
Rhwydwaith ‘Women in Football’
I gryfhau’r ymrwymiadau sydd wedi’u cyflwyno yn Ein Cymru: Amdani Hi ymhellach, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymuno â rhwydwaith proffesiynol Women in Football yn eu hymgyrch “#GetOnside” gan wneud addewid i “#GetOnside drwy ddyblu’r nifer sy’n cymryd rhan, y cefnogwyr a buddsoddiad ym mhêl-droed y merched yng Nghymru.
“Rydym wrth ein bodd i groesawu Cymdeithas Bêl-droed Cymru i mewn i deulu #GetOnside, lle mae llawer o sefydliadau’n addo gweithredu i greu dyfodol tecach i’r gêm,” meddai Jane Purdon, prif weithredwr Women in Football.
“Mae targedau newydd pellgyrhaeddol Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn naid aruthrol i ferched, fel chwaraewyr ac fel cefnogwyr pêl-droed yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at weld y gwaith gwych yma yn dwyn ffrwyth.”
‘Cyfle gwych i fod yn rym go iawn’
Dywed Dawn Bowden, dirprwy weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon fod Llywodraeth Cymru “wedi ymrwymo i weithio gyda holl gyrff y llywodraeth i wella cyfranogiad a mynediad i chwaraeon i ferched”.
“Mae’n bleser gennyf gefnogi strategaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru,” meddai.
“Mae ganddi rôl bwysig iawn i osod y cyfeiriad ar gyfer un o’r prif gampau yng Nghymru a’r byd.
“Dyma gyfle gwych i fod yn rym go iawn i greu newid yn y gêm.”