Mae’r rheithgor yn achos dyn busnes, sydd wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad â’r ddamwain awyren a laddodd y pêl-droediwr Emiliano Sala, wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Roedd yr awyren fechan oedd yn cludo Emiliano Sala, 28, wedi plymio i’r Sianel ger Guernsey ar noson stormus ym mis Ionawr 2019 wrth iddo deithio o’r clwb pêl-droed Nantes yn Ffrainc i Ddinas Caerdydd, a oedd newydd ei arwyddo mewn cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd.

Bu farw’r pêl-droediwr o’r Ariannin ynghyd a’r peilot  David Ibbotson, 59, yn y digwyddiad.

Roedd David Henderson, 67, wedi trefnu’r hediad gyda’r cyn-asiant bêl-droed William “Willie” McKay, ond nid oedd wedi gallu hedfan yr awyren ei hun am ei fod ar wyliau ym Mharis ar y pryd.

Yn hytrach fe ofynnodd i David Ibbotson wneud y daith ar ei ran er nad oedd ganddo drwydded beilot fasnachol na chymhwyster i hedfan gyda’r nos. Yn ogystal, roedd ei gymhwyster i hedfan awyren Piper Malibu wedi dod i ben.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd bod David Henderson wedi anfon negeseuon testun at amryw o bobl yn gofyn iddyn nhw gadw’n dawel, funudau ar ôl iddo glywed bod yr awyren wedi bod mewn damwain.

Roedd David Henderson wedi cyfaddef yn y llys ei fod yn poeni byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal i’w drefniadau busnes.

Mae wedi’i gyhuddo o beryglu diogelwch awyren mewn achos sydd wedi’i ddwyn gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA).

Mae David Henderson eisoes wedi pledio’n euog i gyhuddiad ar wahân o geisio trefnu taith i deithiwr heb ganiatâd neu’r awdurdod i wneud hynny.

Roedd y barnwr Mr Ustus Foxton wedi anfon y rheithgor i ystyried eu dyfarniad bore ma (dydd Mercher, 27 Hydref).