Mae canolwr y Scarlets, Scott Williams, wedi cael ei alw i garfan Cymru ar gyfer Cyfres Yr Hydref.

Bydd Scott Williams, 31 oed, sydd eisoes wedi ennill 58 o gapiau, yn cymryd lle ei gyd-chwaraewr canol cae Uilisi Halaholo, sydd wedi profi’n bositif am Covid-19.

Mae Halaholo bellach yn ynysu, i ffwrdd o wersyll y garfan genedlaethol, am 10 diwrnod.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn gweithio’n agos gyda nhw, ar y mater.