Mae deg cyn-chwaraewr rygbi’r gynghrair yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y corff sy’n gyfrifol am y gamp yn Lloegr.
Maen nhw’n honni bod y corff wedi methu â’u hamddiffyn nhw rhag risgiau cyfergydion yn ystod eu gyrfaoedd, ac yn trafod mynd a nhw i’r gyfraith am esgeulustod.
Yn eu plith mae’r cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru Michael Edwards, a chwaraeodd hefyd i glybiau Oldham, Leigh a St Helens yng ngogledd Lloegr.
Ers ymddeol, mae tri o’r deg dyn – Bobbie Goulding, Paul Highton a Jason Roach – wedi cael diagnosis o arwyddion cynnar dementia ac enseffalopathi trawmatig cronig, neu CTE, cyflwr sy’n effeithio ar yr ymennydd sy’n deillio o daro pen yn gyson.
‘Fel darn o gig’
Yn eu llythyr i’r Rugby Football League, mae’r chwaraewyr yn nodi bod y corff â “dyletswydd i gymryd gofal rhesymol o’u diogelwch drwy sefydlu a gosod rheolau yn ymwneud ag asesiad, diagnosis a thriniaeth o anafiadau sy’n deillio o gyfergyd.”
Mae’r Cymro, Michael Edwards, yn dweud bod ei gof mor wael bellach, dydy o’n methu â chwblhau gwaith gweinyddol sy’n ymwneud â’i fusnes.
Dywedodd wrth asiantaeth newyddion PA ei fod wedi cael ei drin “fel darn o gig” a bod y gamp “fel y Gorllewin Gwyllt” pan oedd yn chwarae.
Mae’n ychwanegu bod ei gyflwr wedi dwyn yr holl atgofion o’i ddyddiau yn chwarae, a bod rhaid iddo edrych ar luniau neu fideos i atgoffa ei hun o’r dyddiau hynny.
‘Gwneud y gêm yn saffach’
Roedd y cyfreithiwr sy’n cynrychioli’r grŵp, Richard Boardman, yn dweud bod y “mwyafrif llethol” o gyn-chwaraewyr yn “caru’r gêm a ddim eisiau ei niweidio mewn unrhyw ffordd.”
“Maen nhw jyst eisiau gwneud y gêm yn saffach, fel bod y genhedlaeth yma a’r nesaf ddim yn dioddef yr un effeithiau â nhw.
“Mae chwaraewyr ifainc fel Stevie Ward a Sam Burgess wedi siarad yn ddiweddar am y difrod i’w hymennydd nhw, felly dydy’r problemau hyn ddim yn gyfyngedig i genedlaethau hyn.
“Dyma pam rydyn ni’n gofyn i’r RFL wneud cyfres o newidiadau yn syth ac ar gost isel er mwyn achub y gamp, fel lleihau cyswllt mewn sesiynau ymarfer ac ymestyn y cyfnod mae chwaraewyr i ffwrdd o’r cae yn dilyn cyfergydion.”
Ymateb yr RFL
Dywedodd y Rugby Football League mewn datganiad eu bod nhw “wedi bod mewn cysylltiad â chyfreithwyr sy’n cynrychioli nifer o gyn-chwaraewyr.
“Mae’r RFL yn cymryd diogelwch a lles chwaraewyr o ddifrif, ac rydyn ni wedi ein tristáu wrth glywed am drafferthion cyn-chwaraewyr,” meddai’r corff.
“Mae rygbi’r gynghrair yn chwaraeon cyswllt felly er bod yna elfen o risg i’w chwarae, mae lles chwaraewyr wastad o’r pwys mwyaf.
“O ganlyniad i wybodaeth wyddonol, mae camp rygbi’r gynghrair yn parhau i wella a datblygu ein dulliau wrth ddelio â chyfergydion, asesu anafiadau pen, addysg, rheoli ac atal effeithiau ar draws y gamp.
“Byddwn yn parhau i ddefnyddio tystiolaeth feddygol ac ymchwil i gryfhau ac ehangu ein dulliau.”