Mae Alun Wyn Jones yn ymwybodol o’r her mae Cymru yn ei wynebu yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn (30 Hydref).

Fe fydd y gic cyntaf am 5:15yh.

Sgoriodd Seland Newydd 100 pwynt yn erbyn yr Unol Daleithiau’r penwythnos diwethaf, ac fe enillon nhw’r Bencampwriaeth Rygbi yn ddiweddar.

Mae Cymru, ar y llaw arall, yn wynebu argyfwng gyda 20 o chwaraewyr ddim ar gael oherwydd anafiadau, salwch a’r ffaith nad yw’r Cymry sy’n chwarae yn Lloegr wedi cael ymuno â’r garfan.

Dyw Cymru heb guro Seland Newydd ers 1953 ac mae Alun Wyn Jones yn wynebu’r All Blacks mewn crys Cymru am y 13eg tro.

“Rydyn ni’n ymwybodol o’r rhediad maen nhw wedi bod arno, ond rydyn ni wedi bod yn ffodus o gael pythefnos gyda’n gilydd i wneud cymaint ag y gallwn ni,” meddai Alun Wyn Jones.

“Mae bob amser yn sialens yn yr hydref ac yn adeg anodd o’r flwyddyn i’r calendr rhyngwladol gan mai dyma’r un cyntaf, ond rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu ac mae’r garfan wedi ei mwynhau.

“Mae Wayne [Pivac] a’r hyfforddwyr wedi bod yn glir yn yr hyn maen nhw eisiau gennym ni.”

Anafiadau

Mae hi’n mynd i fod yn gyfres yr hydref heriol i Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru.

Ni fydd Josh Navidi, Justin Tipuric, George North, Dan Lydiate, James Botham a Leigh Halfpenny ar gael oherwydd anafiadau.

Mae Ellis Jenkins a Liam Williams yn annhebygol o fod yn holliach i herio Seland Newydd, tra bod Willis Halaholo wedi’i heintio â Covid-19.

Does dim modd i Dan Biggar, Callum Sheedy, Louis Rees-Zammit, Taulupe Faletau, Nick Tompkins, Thomas Young a Christ Tshiunza chwarae yn erbyn Seland Newydd gan eu bod gyda chlybiau Saesnig ac mae’r gêm yn cael ei chynnal y tu allan i ffenestr ryngwladol Rygbi’r Byd.

“Pwysau”

“Mae’r pwysau wastad arana ti pan ti’n chwarae dros Gymru oherwydd lefel y disgwyl arnon ni,” ychwanegodd Alun Wyn Jones.

“Mae hynny wastad yr un fath, yn enwedig ar ôl y llwyddiant rydyn ni wedi’i gael dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae’n gyfle i lawer o bobl wneud enw iddyn nhw eu hunain ac mae’n debyg nad oes gêm fwy i’w wneud na’r un gyntaf sydd gennym.

“Ni yw’r rhai sy’n cael eu dewis i chwarae. Mae tu allan i’r ffenestr, felly dyna gwestiwn i rywun sy’n uwch i fyny’r goeden na fi fy hun.

“Mae’n rhwystredig nad yw pawb yn gallu bod yma, ond dyna ni.

“Pan gewch gyfle i roi’r crys coch ymlaen, mae’n rhaid i chi ei gymryd.”

Bydd modd gwylio’r gêm yn fyw ar Amazon Prime, a bydd yr uchafbwyntiau yn cael eu dangos ar S4C am 8:30yh.