Mae’n ymddangos bod ffrae yn corddi yn y byd criced ar ôl i un o chwaraewyr amlycaf De Affrica dynnu’n ôl o gêm yng nghystadleuaeth ugain pelawd Cwpan y Byd yn dilyn cyfarwyddyd gan awdurdodau criced y wlad fod rhaid i’r chwaraewyr benlinio cyn gemau.

Ers tro, fe fu penlinio yn arwydd o gefnogaeth y byd chwaraeon i’r ymgyrch yn erbyn hiliaeth yn dilyn marwolaeth George Floyd dan law’r heddlu yn yr Unol Daleithiau.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae timau a chwaraewyr unigol yn penderfynu cefnogi neu wrthod y weithred, neu’n dangos eu cefnogaeth mewn ffyrdd eraill.

Daeth penderfyniad y wicedwr Quinton de Kock i beidio â chwarae yn y gêm yn erbyn India’r Gorllewin “am resymau personol” oriau’n unig ar ôl y cyfarwyddyd gan Griced De Affrica fod rhaid “gwneud safiad unedig a chyson yn erbyn hiliaeth”.

Mae De Kock wedi gwrthod penlinio yn y gorffennol, ac fe ddaeth y cyhoeddiad na fyddai’n chwarae yn y gêm adeg cyhoeddi’r tîm funudau cyn iddi ddechrau.

Dywed Criced De Affrica fod disgwyl i’r chwaraewyr barhau i ddilyn eu cyfarwyddyd am weddill Cwpan y Byd.

Enillodd De Affrica y gêm o wyth wiced, ac mae’r pencampwyr blaenorol India’r Gorllewin yn debygol o fynd allan o’r gystadleuaeth ar ôl colli dwy gêm yn olynol.