Michael Beale, hyfforddwr tîm cyntaf Rangers o dan Steven Gerrard, yw’r diweddaraf i gael ei ystyried gan Glwb Pêl-droed Caerdydd wrth iddyn nhw chwilio am reolwr newydd.
Gadawodd Mick McCarthy y clwb ar ôl colli o 2-0 yn erbyn Middlesbrough ddydd Sadwrn (Hydref 23).
Steve Morison, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru a hyfforddwr dan-23 Caerdydd, fydd wrth y llyw am y tair gêm nesaf, gyda chymorth Tom Ramasut.
Nawr mae Michael Beale, 41, wedi dod i’r amlwg fel hyfforddwr posib wrth i’r clwb bendroni am olynwyr parhaol.
Chwaraeodd Beale bêl-droed ieuenctid i Charlton Athletic, a dechreuodd hyfforddi gan dreulio deng mlynedd yn Chelsea a gweithio o dan Jose Mourinho, Carlo Ancelotti a Gus Hiddink.
Ymunodd â Lerpwl wedyn, lle bu’n goruchwylio’r tîm dan 16 oed cyn symud ymlaen i’r tîm dan 23 oed.
Cafodd ei benodi’n is-hyfforddwr Sao Paulo ym Mrasil yn 2017 cyn dychwelyd i Lerpwl.
Ymunodd â Steven Gerrard pan gafodd ei benodi’n rheolwr ar Rangers yn 2018.
Mae Jody Morris, is-hyfforddwr Chelsea, ymhlith yr ymgeiswyr eraill i fod yn rheolwr newydd Caerdydd.