Mae disgwyl i gynlluniau i ailddatblygu ysgol yn Wrecsam gael eu cymeradwyo.

Ar hyn o bryd mae plant Ysgol Yr Hafod yn cael eu dysgu mewn dau adeilad gwahanol yn y pentref, yn ddibynnol ar eu hoedran.

Cafodd cais ei gyflwyno’r mis diwethaf i uno’r ddau o dan un to.

Byddai’r cynllun yn golygu creu tri dosbarth newydd yn yr adeilad ar Ffordd Bangor, lle mae’r plant ieuengaf yn cael eu dysgu.

Byddai’r adeilad presennol hefyd yn cael ei adnewyddu i gynnal cyfanswm o 350 o ddisgyblion.

Fe fydd y cynigion yn cael eu hystyried gan gynghorwyr yr wythnos nesaf, ac maen nhw wedi cael eu cymeradwyo gan un o uwch swyddogion Cyngor Wrecsam.

Maen nhw hefyd wedi derbyn cefnogaeth cynrychiolydd Johnstown, David A Bithell, a ddywedodd bod pryderon am barcio ar y safle wedi cael sylw.

Yn ei ymateb i’r cynlluniau, dywedodd y Cynghorydd Bithell: “Rwy’n llwyr gefnogi’r gwaith o adnewyddu ysgol gynradd newydd i fodloni safonau ysgolion yr 21ain ganrif ar safle Ffordd Bangor, gan gynnwys adnewyddu’r ysgol, a diwygiadau i gynllun y briffordd.

“Bydd hyn yn darparu cyfleusterau ac amgylcheddau ystafell ddosbarth llawer iawn gwell ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc.

“Rwyf wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod y mater gyda thrigolion lleol yn y gymuned, ac rwy’n hapus i gadarnhau ei bod yn ymddangos bod cefnogaeth gyffredinol i’r cynnig.

“Rwy’n ymwybodol o, ac wedi derbyn, rhywfaint o adborth ynghylch effeithiau parcio rhieni ger yr ysgol, ond rwy’n hapus gyda’r mesurau lliniaru a gynigir fel rhan o’r cais.”

“Syniad gwych”

Mae cyfanswm o bedwar gwrthwynebiad wedi cael eu cyflwyno gan bobl sy’n byw ger yr ysgol a hynny oherwydd pryderon am yr effaith ar barcio a thraffig.

Mae dau lythyr o gefnogaeth hefyd wedi eu cyflwyno i’r cyngor, gydag un person yn dweud bod y cynlluniau yn “syniad gwych”.

Byddai’r cynigion hefyd yn arwain at greu maes parcio staff newydd ac ardal gemau aml-ddefnydd.

Mewn adroddiad sy’n argymell cymeradwyo’r cynlluniau, dywedodd Lawrence Isted, prif swyddog cynllunio’r awdurdod lleol: “Mae’r awdurdod priffyrdd yn fodlon bod y bwriad i uno’r ysgolion babanod ac iau, ar y safle sengl hwn, yn dderbyniol o ran diogelwch priffyrdd.

“Rwy’n fodlon felly bod y datblygiad yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio lleol.”

Bydd y cais yn cael ei ystyried gan aelodau’r pwyllgor cynllunio mewn cyfarfod ddydd Llun (1 Tachwedd).