Fe gasglodd bron i 100 o bobol yn Aberystwyth neithiwr (26 Hydref) i brotestio yn erbyn y cynnydd diweddar mewn sbeicio ar draws y Deyrnas Unedig.

Yn ôl ffigurau’r BBC yn 2019, roedd mwy na 2,600 o adroddiadau o sbeicio diodydd wedi bod yng Nghymru a Lloegr ers 2015, ac roedd 72% o’r dioddefwyr yn fenywod.

Yn sgil hynny, cafodd y brotest ‘Digon yw Digon’ ei drefnu gan Gymdeithas Rhyddfrydwyr Prifysgol Aberystwyth, ac ymhlith y dorf o flaen y Pier oedd nifer o fyfyrwyr pryderus.

Ymhlith y mesurau sy’n cael eu hawgrymu gan y protestwyr mae stribedi profi diodydd mewn bariau a chlybiau nos, mynediad i gloriau ar gyfer diodydd mewn lleoliadau, mwy o wiriadau diogelwch a dedfrydau llymach i’r rhai sy’n sbeicio diodydd.

Roedd y Cynghorydd Elizabeth Evans yn siarad yn y digwyddiad, ac roedd hi’n pwysleisio’r angen am weithredu ar lefel leol wrth daclo’r broblem sbeicio ac yn galw ar brotestwyr i barhau i wthio ar y Cyngor.

Fe wnaeth yr Aelodau o’r Senedd Elin Jones a Jane Dodds, yn ogystal â’r Aelod Seneddol Ben Lake, ddangos eu cefnogaeth o bell i’r digwyddiad.

Difrifol

Dywedodd y trefnwyr Joe Thomas a Poppy Faiers bod y “presenoldeb yn y brotest hyd yn oed yn well na’r disgwyl.”

“Rydyn ni am ddiolch i bawb a ddaeth draw i fynegi undod gyda ni dros y mater difrifol iawn hwn,” medden nhw.

“Ers dechrau ymgyrch AberNightIn ychydig llai nag wythnos yn ôl, rydyn ni wedi gweld gwell mesurau diogelwch mewn llawer o leoliadau yn Aber, gan gynnwys yr Angel a’r Pier; lansio gwasanaeth i adrodd am sbeicio yn ddienw.

“Yn ogystal, mae gwylwyr nos ychwanegol wedi eu darparu gan Undeb Myfyrwyr Aber; mae cymdeithasau myfyrwyr yn darparu mwy o gefnogaeth i’r rhai sydd wedi cael eu sbeicio neu wedi eu hymosod arnynt yn rhywiol; ac mae ein gofynion yn cael eu cyfeirio atynt gan Jane Dodds a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Y dorf tu allan i’r Pier yn Aberystwyth

“Byddwn yn parhau i ymladd am well mesurau i amddiffyn pobol ac rydyn ni hefyd wedi lansio deiseb, sydd ar gael ar-lein.”

Roedd gofynion y trefnwyr wedi cael eu defnyddio fel amcanion ymgyrch a gafodd ei lansio gan Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yr wythnos hon, sef:

  1. Stribedi profi diodydd am ddim i bawb mewn lleoliadau, i’w cyllido gan y llywodraeth os oes angen.
  2. Hyfforddi penodol i staff lleoliadau a’r heddlu er mwyn sylwi ar arwyddion o sbeicio a sut i ddelio â’r broblem pan mae’n codi.
  3. Dedfrydau mwy llym i’r rheiny sydd yn euog o fod wedi sbeicio rhywun arall.

Dychrynllyd

Mae Anna McMorrin, yr Aelod Seneddol dros Ogledd Caedydd, yn codi’r mater mewn cwestiwn i’r Prif Weinidog Boris Johnson yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (27 Hydref).

“Mae hyn wedi codi i lefel erchyll a dychrynllyd,” meddai.

“Sut mae posib i rywun amddiffyn ei hun rhag cael eich sbeicio gyda sylwedd gwenwynig pan mae bwriad yr unigolyn arall yw achosi niwed?

Anna McMorrin AS

“Mae’n beryglus a dychrynllyd i fenywod hen ac ifanc, ac mae hyn yn eu heithrio rhag mynd ar nosweithiau allan mewn bariau a chlybiau.

“Rydw i’n galw ar Lywodraeth [Prydain] i gymryd camau ar frys i ddod â’r holl gyfranddalwyr ynghyd i ganfod datrysiadau, ac i wneud yn siŵr bod goblygiadau difrifol i’r rhai sy’n cael eu dal yn gwneud hyn.”