Mae Mark Drakeford wedi annog Llafur i newid y ffordd mae Aelodau Seneddol yn cael eu hethol yn San Steffan.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn cael ei “ddrysu” gan bobl sy’n cefnogi etholiadau cyntaf i’r felin, trefn sy’n nodweddiadol o system etholiadol Senedd San Steffan.

Mae’n dweud y dylai Llafur fynd i’r etholiad cyffredinol nesaf gan addo diwygio’r system etholiadol fel rhan o brosiect i “achub y Deyrnas Unedig”.

Mewn etholiadau cyntaf i’r felin, yr enillydd yw’r ymgeisydd sy’n ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau mewn etholaeth.

Cafodd cynigion ar gyfer diwygio etholiadol eu trechu yng nghynhadledd Llafur yn Lerpwl fis diwethaf.

“Mae yna bob math o gweryla democrataidd gyda system o’r math [Cyntaf i’r Felin], ond rwy’n teimlo’n sicr y bydd ei barhad dim ond yn bwydo ymhellach yr holltau sy’n bygwth dyfodol y Deyrnas Unedig,” meddai Mark Drakeford.

“Sut mae rhywun yn gallu cefnogi system sy’n delifro, mor aml, Llywodraethau Ceidwadol mwyafrifol ar sail nifer fach o bleidleisiau sy’n cael eu bwrw, yn rhywbeth sy’n fy nrysu i’n llwyr.

Mae penderfyniad gan Undeb Unite – un o brif gefnogwyr y blaid Lafur – i gefnogi system bleidleisio newydd yn gwneud y siawns o ddiwygio yn “gwella’n sylweddol”, meddai.

Cyntaf i’r Felin

Fe’i defnyddir ar gyfer etholiadau San Steffan, ac i Aelodau o’r Senedd etholaethol yn ystod etholiadau Seneddau Cymru a’r Alban.

Mewn darlith, galwodd arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford am “atgyweirio ein democratiaeth”.

Cyfeiriodd at ganlyniad etholiad cyffredinol 2019 yn yr Alban, lle enillodd Llafur 19% o’r bleidlais, ond dim ond un sedd.

Mae’r Llywodraeth yn cefnogi galwadau i gynyddu maint y Senedd o 60 i 90 o aelodau.

Mae yna hefyd bwyllgor arbennig wedi’i sefydlu sy’n edrych ar gynigion i ethol Aelodau o’r Senedd drwy’r bleidlais sengl drosglwyddadwy.

Mark Drakeford: y Ceidwadwyr yn ystyried Cymru yn wlad “anniolchgar sy’n mynnu mwy o gymorth ariannol”

Fe wnaed y sylwadau wrth iddo draddodi Darlith Goffa Aneurin Bevan yn San Steffan