Mae’r Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi beirniadu Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn llym wrth draddodi Darlith Goffa Aneurin Bevan yn San Steffan.
Fe gyhuddodd e Lywodraeth Boris Johnson o lywodraethu’n “ymosodol” gan geisio dangos “pwy yw’r bos”.
Ychwanegodd ei fod yn credu bod y Ceidwadwyr yn Llundain yn gweld Cymru yn ddim byd mwy na gwlad “anniolchgar sy’n mynnu mwy o gymorth ariannol”.
Awgrymodd y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod wedi dangos “rhywfaint o wyleidd-dra” yn dilyn etholiad Senedd Cymru, lle enillodd Llafur 30 allan o 60 sedd, tra enillodd y Ceidwadwyr 16.
Ymosodol
Dadleuodd fod y llywodraeth wedi lansio “ymosodiad uniongyrchol iawn” ar bwerau a chyllidebau’r Senedd.
“Yng Nghymru, hyd yn oed yn amgylchiadau llwm yr etholiad hwnnw, enillodd Llafur fwyafrif o etholaethau Cymru,” meddai.
“Fe allech chi, fe fyddwn i’n dadlau, fod wedi disgwyl rhywfaint o wyleidd-dra yng nghyd-destun y canlyniad. Ymdeimlad mai’r peth gorau i’w wneud fyddai gweithio’n agos gydag eraill mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig ble roedd eu mandad yn llawer gwannach.”
Fe ddywedodd y dylai’r Ceidwadwyr “droedio’n ofalus” er mwyn sicrhau bod pedair gwlad y Deyrnas Unedig yn aros gyda’i gilydd.
“Ond roedd y realiti yn hollol groes i hynny, y straen amlycaf – nid yr unig straen, ond yr un amlycaf – yn y mwyafrif cyntaf o Lywodraeth Geidwadol ers datganoli, ers bron i ddwy flynedd, yn unochrog penderfynol ac ymosodol,” meddai.
Fe bwysleisiodd mai cynllun Llafur a diwygio’r Deyrnas Unedig yw’r modd i Brydain barhau, gan ddweud mai dyna fyddai “mwyafrif deniadol i fwyafrif clir iawn o ddinasyddion Cymru, ac i ddinasyddion mewn mannau eraill.”
Comisiwn Cyfansoddiadol
Eisoes, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru dan gyd-gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i sefydlu’r comisiwn yn eu Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2021 i 2026, a bydd gweddill yr aelodau’n cael eu cyhoeddi erbyn mis Tachwedd mewn pryd i’w cyfarfod cyntaf.
Yn ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru, bwriad y Comisiwn yw “datblygu opsiynau ar gyfer diwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru’n rhan annatod ohoni.”
Bydd hefyd yn ystyried opsiynau i gryfhau democratiaeth yng Nghymru.
Byddan nhw hefyd yn cyfathrebu â’r cyhoedd er mwyn eu cynnwys mewn “sgwrs genedlaethol am ddyfodol Cymru”.