Mae dwy ddynes wedi cael eu harestio yn dilyn protest ar safle dolydd gwyrdd Caerdydd sydd wedi’i glustnodi ar gyfer ysbyty canser newydd.

Mae gan ysbyty Felindre ganiatâd cynllunio i godi’r ganolfan newydd ar safle Dolydd y Gogledd yn yr Eglwys Newydd, penderfyniad sydd wedi bod yn destun ffrae ers peth amser.

Ymgasglodd oddeutu 20 o brotestwyr ar y safle ar gyfer yr hyn mae’r heddlu’n ei alw’n brotest heddychlon, ynghyd â nifer sylweddol o heddlu a chontractwyr oedd yno i archwilio’r safle ac i’w glirio rywfaint.

Ond cafodd dynes 36 oed o Laneirwg a dynes 69 oed o’r Mynydd Bychan eu harestio ar amheuaeth o dresmasu difrifolach.

Roedd un protestiwr wedi clymu ei hun i glwyd gerfydd ei gwddf, ac mae criw arall o brotestwyr wedi ymgasglu ar ran arall o’r Dolydd.

Fis diwethaf, cafodd her gyfreithiol i atal y gwaith adeiladu ei gwrthod, ond mae protestwyr bellach yn honni bod clirio tir yno’n mynd yn groes i amodau’r caniatâd cynllunio.

Darllenwch ragor

Pleidlais dros Lafur neu Blaid Cymru yn un “dros ganolfan gancr eilradd a dinistrio’r amgylchedd”

Alun Rhys Chivers

“Brwydr dros bolisïau, nid personoliaethau” yw’r ffrae yng Ngogledd Caerdydd, medd Ashley Drake

“Fydd na ddim ymgyrch gan Blaid Cymru yng Ngogledd Caerdydd,” medd cyn-ymgeisydd

Iolo Jones

Ashley Drake yn dweud na fydd y gangen yn cefnogi pwy bynnag ddaw yn ei le

Ymgeisydd etholiadau’r Senedd yn ymddiswyddo oherwydd ffrae ynglŷn â sefydlu canolfan trin canser

Plaid Cymru yn dweud eu bod yn cefnogi’r ganolfan ac y byddant “yn parhau i ofyn y cwestiynau sy’n mynnu atebion”