Mae galwadau o’r newydd ar i Lywodraeth Cymru ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.

Mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn galw ar yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth i gynnwys y cynlluniau mewn unrhyw welliannau yn y dyfodol.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth, fapiau newydd sy’n datgelu prosiect “Metro Cymru” gwerth £1bn.

Bwriad y cynllun yw gwella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru gyda’r nod o wella’r amgylchedd drwy annog pobol i ddefnyddio eu ceir yn llai aml.

Rheilffyrdd yn y gorllewin

Er ei fod yn croesawu’r cyhoeddiad, mae Cefin Campbell am weld y cynllun Metro yn mynd ymhellach.

“Er fy mod yn croesawu cyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru i annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gorsaf newydd yn Sanclêr, rhaid rhoi mwy o bwyslais ar ailagor rheilffyrdd gorllewin Cymru er mwyn sicrhau bod uchelgeisiau hinsawdd Cymru ar y trywydd iawn,” meddai.

“Mae seilwaith rheilffyrdd digyswllt Cymru ar hyn o bryd yn parhau i fod yn anaddas, ac mewn rhannau helaeth o orllewin Cymru, nid oes dewis gan drigolion ond dibynnu ar drafnidiaeth breifat lygrol er mwyn teithio o ddydd i ddydd.”

Dywedodd Lee Waters yr wythnos ddiwethaf y byddai Metro Cymru yn fodd o leihau ein heffaith amgylcheddol yn sylweddol ac yn helpu Cymru i gyrraedd ei tharged Net Di-garbon erbyn 2050.

“Nid prosiect trafnidiaeth yn unig yw’r Metro, mae’n ymwneud â newid bywydau pobol ledled Cymru ac mae’n enghraifft wych o sut mae buddsoddi mewn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn dod â manteision cymunedol llawer ehangach,” meddai.

Allyriadau carbon

Ar drothwy uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow, mae Cefin Campbell am weld y cynllun yn rhan o gynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag allyriadau carbon.

“Gyda bron i un rhan o bump o allyriadau carbon Cymru yn cael eu cynhyrchu o drafnidiaeth, mae’n hanfodol bod map trafnidiaeth integredig a hygyrch yn cael ei roi wrth wraidd uchelgeisiau Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Does gen i ddim amheuaeth y byddai ailagor rheilffordd Aberystwyth-Caerfyrddin yn newid map trafnidiaeth gyhoeddus Cymru yn sylweddol – gan sicrhau trafnidiaeth werdd a manteision digynsail i economi gorllewin Cymru.”

Metro Cymru: prosiect “uchelgeisiol a chymhleth” £1 biliwn i wella trafnidiaeth cyhoeddus

“Nid prosiect trafnidiaeth yn unig yw’r Metro, mae’n ymwneud â newid bywydau pobl ledled Cymru” – Lee Waters