Costau byw, yr hinsawdd a swyddi yw’r “tri phrawf mawr” ar gyfer y Gyllideb heddiw (dydd Mercher, Hydref 27), yn ôl Plaid Cymru.
Daw sylwadau Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion a llefarydd Trysorlys ei blaid, wrth i’r Canghellor Rishi Sunak baratoi i gyhoeddi ei Gyllideb Hydref a’i Adolygiad Gwariant am 12.30yp.
Dywed fod rhoi sylw i’r tri pheth hyn yn brawf “hanfodol” i Sunak, gan ychwanegu y byddai “dwyn sylw penawdau’r dydd” yn beth hawdd i’w wneud.
- Cefn gwlad
Mae’n galw am “bolisïau cadarn a fydd yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobol”, gan gynnwys ymestyn y cynllun Rhyddhad ar gyfer Treth Tanwydd Gwledig i Gymru.
Yn ôl y cynllun, mae yna gynnig o ostyngiad o 5c y litr i werthwyr tanwydd mewn rhai ardaloedd gwledig – does dim yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae Ben Lake hefyd yn dweud bod “rhaid” cynyddu’r buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yng nghefn gwlad.
- Biliau ynni a’r amgylchedd
Er mwyn mynd i’r afael â’r hyn sy’n cael ei ystyried yn argyfwng biliau ynni ac er mwyn dangos arweiniad ar drothwy’r uwchgynadledd COP26 yn Glasgow, mae Ben Lake yn galw ar y Canghellor i gyhoeddi buddsoddiad o £360 miliwn y flwyddyn i ddechrau datgarboneiddio stoc dai Cymru, yn unol â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
- Busnesau bach
Mae e hefyd yn galw am “gefnogi busnesau bach” trwy gynyddu’r Lwfans Cyflogaeth o £4,000 i £5,000.
Byddai hyn, meddai, yn gwarchod busnesau bach rhag y cynnydd mewn trethi ac Yswiriant Gwladol sydd yn yr arfaeth.
‘Prawf hanfodol’
“Mae heddiw’n brawf hanfodol i’r Canghellor mewn tair ffordd: costau byw, yr hinsawdd a swyddi,” meddai Ben Lake.
“Bydd dwyn sylw penawdau’r dydd ar yr argyfwng costau byw yn hawdd – ond mae angen polisïau cadarn arnom a fydd yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobol, yn y tymor byr a’r tymor hir.
“Yn ail, rhaid iddo ddangos arweiniad byd-eang ar weithredu ar yr hinsawdd cyn COP26.
“Ac yn olaf, rhaid iddo gefnogi swyddi drwy leddfu peth o’r baich ar fusnesau bach.”
‘Mae pobol ledled Cymru’n gofidio am y misoedd i ddod’
“Gyda phrisiau ynni a thanwydd uchel dros ben, toriadau i Gredyd Cynhwysol, trethi uwch a chwyddiant yn cynyddu, mae pobol ledled Cymru’n gofidio am y misoedd i ddod.
“Mae pobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ar fin colli allan yn anghymesur oherwydd bod gwariant ar isadeiledd cyhoeddus lawer yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.
“Mesur tymor byr y dylai’r Canghellor ei gyhoeddi heddiw yw estyniad o’r cynllun Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig i Gymru.
“Byddai hyn yn cydnabod y diffyg ofnadwy o ran isadeiledd trafnidiaeth yng Nghymru wledig ac yn sicrhau nad yw pobol mewn ardaloedd gwledig yn cael eu gorfodi i ysgwyddo cyfran annheg o gostau tanwydd cynyddol uwch.
“Yn y tymor hirach eto, mae’n rhaid i fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gynyddu.
“Rydym hefyd yn galw ar y Canghellor i gyhoeddi ymrwymiad o £3.6bn y flwyddyn i gychwyn datgarboneiddio stoc dai Cymru, yn unol ag argymhelliad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
“Nid yn unig y byddai hyn yn gosod esiampl fyd-eang ar weithredu ar yr hinsawdd cyn uwchgynhadledd COP26 – byddai hefyd yn arbed £418 y flwyddyn i bobol yng Nghymru ar eu biliau ynni, sy’n gyfanswm o £8.26bn o gynilion erbyn 2040.
“Yn olaf, rhaid i’r Canghellor geisio cefnogi busnesau bach ar ddiwedd yr hyn sydd wedi bod yn ddwy flynedd heriol eithriadol.
“Byddai cynyddu’r Lwfans Cyflogaeth o £4,000 i £5,000 yn helpu busnesau bach drwy’r cynnydd gwreiddiol mewn Yswiriant Gwladol sydd yn yr arfaeth ym mis Ebrill, gan eu galluogi nhw i barhau yn eu rôl o fod yn gyflogwyr allweddol yn economi Cymru.”