Mae cwest i farwolaeth yr Aelod Seneddol Syr David Amess wedi cael ei agor a’i ohirio bore ma (dydd Mercher, 27 Hydref).

Cafodd David Amess, 69 oed, ei drywanu mewn eglwys yn ei etholaeth yn Leigh-on-Sea yn Essex.

Clywodd y gwrandawiad, a barodd am bum munud, bod y tad i bump wedi marw o ganlyniad i gael ei “drywanu sawl gwaith yn ei frest”.

Dywedodd swyddfa’r crwner Paul Donaghy bod David Amess wedi cael ei drywanu “yn ystod cyfarfod gydag unigolyn” ar 15 Hydref a’i fod wedi marw am 1.13pm.

Cafodd y cwest yn Chelmsford ei ohirio nes bod achos troseddol wedi’i gwblhau, ac fe fydd yn cael ei adolygu eto ar 27 Ebrill.

Fe fydd ei angladd yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan San Steffan ar 23 Tachwedd.

Mae dyn 25 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio’r Aelod Seneddol.

Fe fu Ali Harbi Ali gerbron yr Old Bailey ddydd Gwener diwethaf. Nid oedd wedi cael cais i gyflwyno ple i gyhuddiadau o lofruddio a pharatoi gweithredoedd brawychol rhwng 1 Mai 2019 a Medi eleni. Fe fydd yn sefyll ei brawf ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.