Mae’r milwyr olaf o wledydd Prydain wedi gadael Affganistan, gan ddod â gweithrediadau y lluoedd arfog Prydeinig i ben yno ar ôl dau ddegawd.

Cafodd y milwyr olaf eu cludo o Kabul ddoe (dydd Sadwrn, Awst 28), gan ddod ag Operation Pitting i ben.

Ymhlith y rhai olaf i adael roedd Syr Laurie Bristow, llysgennad Prydain yn Affganistan, oedd wedi bod yn prosesu ymadawiadau’r rheiny fu’n gadael dros y dyddiau diwethaf.

Mewn fideo, mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi canmol pawb fu’n rhan o’r gweithrediadau yn y wlad gan ddweud eu bod nhw “wedi gweithio o amgylch y cloc i ddyddiad cau di-drugaredd mewn amodau erchyll”.

O blith y 15,000 o bobol sydd wedi’u symud o’r wlad ers i’r Taliban gipio Kabul, mae 5,000 yn dod o wledydd Prydain, ac mae mwy nag 8,000 o Affganiaid fu’n helpu lluoedd Prydeinig hefyd wedi cael gadael y wlad gyda’u teuluoedd.

Serch hynny, mae’r lluoedd arfog yn cyfaddef fod yna “dristwch” na chafodd pawb adael.

“Doedd eich dioddefaint a’ch caledi ddim yn ofer,” meddai Boris Johnson, er bod Tobias Ellwood, cyn-filwr ac aelod seneddol Ceidwadol, yn dweud bod gan Brydain “fawr i’w ddangos” am ddau ddegawd o waith yno.

Mae Ellwood yn rhybuddio y bydd brawychiaeth “godi’i ben” yn y wlad eto ac na fydd y Gorllewin “fyth yn ennill”.

“Yn anffodus, rydyn ni wedi gwneud y sefyllfa’n waeth drwy wneud ein hunain yn absennol o’r union le y mae bellach yn hawdd iawn i grwpiau brawychol wneud eu gwaith,” meddai.