Mae Corwynt Ida yn gorwynt Categori 4 peryglus sy’n debygol o achosi difrod sylweddol yn nhalaith Louisiana yn yr Unol Daleithiau.

Fe fu’r Ganolfan Corwyntoedd Genedlaethol wedi rhybuddio am wyntoedd o hyd at 130m.y.a. 16 mlynedd i’r diwrnod ers i Gorwynt Katrina achosi cryn ddifrod yn y dalaith honno a Mississippi.

Fe wnaeth cyflymdra’r gwyntoedd godi 15m.y.a. o fewn awr.

Daw’r corwynt wrth i’r dalaith geisio dygymod â chynnydd sylweddol mewn achosion o Covid-19 yn ddiweddar o ganlyniad i gyfraddau brechu isel a chynnydd mewn achosion o amrywiolyn Delta.

Wrth i bobol gael eu symud o’u cartrefi, mae pryderon erbyn hyn y gallai ysbyty gael eu gorlethu gan arwain at gynnydd pellach mewn achosion o’r feirws mewn ysbytai a sawl lloches sydd wedi’u codi ar gyfer y rhai fydd yn cael eu heffeithio gan y corwynt.

Mae’r awdurdodau eisoes yn ceisio dod o hyd i ystafelloedd mewn gwestai.

Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi cyhoeddi argyfwng yn nhaleithiau Louisiana a Mississippi.

Roedd Corwynt Katrina yn storm Categori 3 ac fe gafodd y bai am 1,800 o farwolaethau wrth i gartrefi gael eu dinistrio ym Mississippi, gyda llifogydd hefyd yn New Orleans.