Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi addo parhau â chyrchoedd awyr yn erbyn Islamyddion oedd yn gyfrifol am ffrwydrad ym maes awyr Kabul oedd wedi lladd degau o Affganiaid ac 13 o filwyr Americanaidd.

Mae’n rhybuddio bod ymosodiad arall yn “debygol iawn”, ac mae’r awdurdodau’n dweud bod y bygythiad yn un “penodol” a “chredadwy”.

Mae oddeutu 4,000 o filwyr Americanaidd yn paratoi i adael y wlad cyn y dyddiad cau sydd wedi’i bennu ar gyfer dydd Mawrth (Awst 31).

“Nid y cyrch hwn oedd yr olaf,” meddai Joe Biden mewn datganiad.

“Byddwn yn parhau i hela unrhyw berson oedd ynghlwm wrth yr ymosodiad casineb hwnnw ac yn gwneud iddyn nhw dalu.”

Mae e wedi talu teyrnged i “ddewrder ac anhunanoldeb” y lluoedd Americanaidd sydd wedi bod yn sicrhau y gall pobol adael Affganistan wrth iddyn nhw gyrraedd maes awyr Kabul.

Mae’r awdurdodau’n rhybuddio pobol y dylen nhw adael y maes awyr ar unwaith heddiw yn sgil y bygythiad diweddaraf i ddiogelwch.

Mae cyrff yr Americanwyr fu farw’n cael eu dychwelyd yno, wrth i ugain mlynedd o weithgarwch milwrol ddod i ben.

Mae mwy na 2,400 o filwyr Americanaidd wedi colli eu bywydau, ac mae’r Taliban yn dychwelyd i rym fel yr oedden nhw ar ddechrau’r ymyrraeth wleidyddol yn 2001.