Mae un o brif strydoedd Caerdydd wedi’i chau yn dilyn achos o drywanu, yn ôl yr heddlu.

Mae pobol yn cael eu cynghori i gadw draw o Ffordd y Brenin rhwng Stryd y Castell a Heol y Brodyr Llwydion.

O ganlyniad i’r digwyddiad, roedd gwasanaethau bws i’r Coed Duon a’r Porth wedi’u heffeithio, ac roedden nhw wedi bod yn dechrau o Heol y Brodyr Llwydion.

Mae dau ddyn 21 oed wedi cael eu hanafu yn dilyn y digwyddiad am 1 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Awst 29) ac maen nhw wedi derbyn triniaeth am anafiadau’n ymwneud â chyllell.

Mae lle i gredu bod y ddau ddyn mewn cyflwr sefydlog.

Dyma’r ail ymosodiad yn y brifddinas y penwythnos hwn, ar ôl i ddyn 18 oed gael ei anafu mewn digwyddiad am 3 o’r gloch fore ddoe (dydd Sadwrn, Awst 28).

Ond dydy’r heddlu ddim yn cysylltu’r ddau ddigwyddiad â’i gilydd.