Mae’r Taliban wedi saethu canwr gwerin o Affganistan yn farw ym mynyddoedd y wlad.

Dydy union amgylchiadau’r ddigwyddiad ddim yn glir ar hyn o bryd, yn ôl teulu Fawad Andarabi, a gafodd ei enwi ar ôl y rhanbarth mynyddig lle bu farw.

Fe fu’r Taliban yn y gartref ac fe wnaethon nhw ei chwilio, gan yfed te gyda’r cerddor a’i fab Jawad.

Ond mae’r llofruddiaeth wedi arwain at bryderon ymhlith ymgyrchwyr bod y Taliban yn dychwelyd at eu hen ddulliau gormesol o reoli’r wlad.

Daw’r digwyddiad wrth i’r Unol Daleithiau dynnu’n ôl o’r wlad wrth i filoedd o bobol gael eu cludo o’r wlad o faes awyr Kabul.

Mae awyrennau’r Unol Daleithiau yn dal i gludo pobol allan o’r wlad cyn y dyddiad cau ddydd Mawrth (Awst 31).

Ymateb Jawad Andarabi

“Roedd e’n ddiniwed, yn ganwr oedd ond yn diddanu pobol,” meddai Jawad Andarabi am ei dad.

“Fe wnaethon nhw ei saethu yn ei ben ar y fferm.”

Mae’n dweud ei fod e am geisio cyfiawnder, a bod cyngor Taliban lleol wedi addo cosbi’r sawl sy’n gyfrifol.

Roedd y canwr yn fwyaf adnabyddus am ganeuon gwladgarol am Affganistan.

Mae grwpiau hawliau dynol wedi beirniadu’r digwyddiad.