“Gwrandewch ar eich corff” yw rhybudd Aelod Seneddol Llafur Pontypridd, ar ôl iddi gael triniaeth yn yr ysbyty.

Mewn neges ar Twitter, dywed Alex Davies-Jones ei bod hi wedi cael tynnu ei phendics ar ôl cael ei chludo i’r ysbyty.

Ar ôl dweud ei bod hi wedi cael mynd adref, dywed ei bod hi’n “wers wych i wrando ar eich corff eich hun a gwybod pan nad yw rhywbeth yn iawn”.

Mae hi’n annog unrhyw un sy’n teimlo’n sâl i fynd at y meddyg teulu.

“Peidiwch ag oedi fel y gwnes i,” meddai.

“Mae ein Gwasanaeth Iechyd yn anhygoel ac er gwaethaf popeth mae wedi bod drwyddo fe dros y 18 mis diwethaf, mae’n dal ar agor ac ar gael i chi.