Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd wedi cymharu neges Twitter gan gwmni llyfrau am Lwybr yr Arfordir (@WalesCoastUK) â neges “trydar allan o sequel i Wythnos yng Nghymru Fydd”.

Daw sylwadau Mabon ap Gwynfor, sy’n cynrychioli etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn y Senedd, wrth ymateb i neges a gafodd ei thrydar gan y cyfrif ‘Wales Coast Path UK’ ddoe (dydd Sadwrn, Awst 28).

Cwmni llyfrau yw hwn sy’n hyrwyddo llyfrau swyddogol am Lwybr yr Arfordir, ac nid y cyfrif swyddogol ar gyfer Llwybr yr Arfordir.

Mae nofel Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd, a gafodd ei chyhoeddi yn 1957 yn darogan sut olwg fydd ar Gymru yn y flwyddyn 2033.

Ymateb ar Twitter

Ond mae wedi dod dan y lach am gyhoeddi gwybodaeth gamarweiniol am hanes yr enw Cymraeg a Saesneg ar y dref.

“A wyddoch chi?” meddai’r neges, cyn ychwanegu, “Câi tref glan môr liwgar Tenby yn Sir Benfro ei galw’n ‘Dinbych y Pysgod’ yn Gymraeg yn wreiddiol. Mae hyn yn cyfieithu i ‘Little Town of Fish.”

Mae’r neges wedi denu degau o ymatebion, gyda nifer sylweddol o bobol o’r farn mai Llwybr yr Arfordir oedd wedi trydar y neges, ond @WalesCoastPath yw handlen y cyfrif hwnnw.

“A wyddoch chi?” meddai’r canwr Gareth Bonello, “@WalesCoastPath yw handlen swyddogol Wales Coast Path ac mae’n cysylltu i wefan ddwyieithog wedi’i rhedeg gan @NatResWales (Cyfoeth Naturiol Cymru).”

“Plîs addaswch y trydariad hwn,” meddai’r newyddiadurwraig Jennifer Jones. “Mae’n dal i gael ei alw’n Ddinbych y Pysgod.”