Mae adroddiadau bod plentyn wedi cael ei ladd ar ôl i roced daro cymuned i’r gogledd-orllewin o faes awyr Kabul.

Daw’r ffrwydrad wrth i’r Unol Daleithiau barhau i geisio symud pobol o Affganistan ar ôl i’r Taliban ddod i rym yno.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad heddiw (dydd Sul, Awst 29).

Mae degau o filoedd o bobol eisoes wedi gadael y wlad o faes awyr Kabul ers i’r Taliban gipio grym bythefnos yn ôl.

Ar ôl i Isis-K, un o gynghreiriaid Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – ladd mwy na 180 o bobol, mae’r Taliban wedi cynyddu eu diogelwch o amgylch y maes awyr wrth i hediadau Prydain allan o’r wlad ddod i ben ddoe (dydd Sadwrn, Awst 28).

Canwr gwerin wedi’i saethu’n farw gan y Taliban

Dydy’r union amgylchiadau ddim yn glir ar hyn o bryd

Y milwyr olaf o wledydd Prydain wedi gadael Affganistan

Operation Pitting wedi dod i ben ar ôl dau ddegawd