Mae Diplomydd yn y Swyddfa Dramor wedi siarad mewn manylder am ei brofiadau ysgytwol yn Affganistan mewn cyfweliad â Golwg 360.
“Roedd hi’n gorfod rhoi ei phlentyn i freichiau person dieithr er mwyn sicrhau ei bod hi’n gallu cario ei stwff,” meddai’r Cymro Cymraeg o Aberhonddu.
“Pan gyrhaeddodd hi atom ni, fe wnes i afael yn y plentyn a’i ddal wrth brosesu hi a’i theulu gan sicrhau eu bod yn cael mynd ar yr awyren.
“Er yn sefyllfa dorcalonnus doedd hi ddim sefyllfa unigryw yn hynny o beth.
“Roedd yna gannoedd o deuluoedd mewn sefyllfa debyg ble roeddent wedi colli o leiaf un aelod o’r teulu o achos i’r Taliban.”
Buodd Rhys Annett allan yn Affganistan yn helpu ceisiwyr lloches i ddianc o Kabul i Brydain.
“Rwy’n gymysgedd o deimladau wrth edrych nôl ar y cyfnod,” meddai’r gŵr 29 oed wrth Golwg360, “ond rwy’n falch fy mod wedi chware fy rhan mewn achub 15,000 o bobl”.
Buodd Rhys Annett allan yno gyda thîm o 10 o ddiplomyddion eraill gyda’r nod o geisio cael cymaint o bobl a phosib allan o’r wlad.
Ffrwydrad
Buodd hefyd yn agos at ffrwydrad a laddodd dros 170 o bobl, gan gynnwys 13 o Marines yr Unol Daleithiau yn y brifddinas.
“Cawsom ein symud allan o’n lleoliad oherwydd ein bod wedi derbyn gwybodaeth am y bygythiad bom.
“Ddwyawr wedi i ni gael ein symud gan y lluoedd arfog, aeth y bom enfawr hwnnw i ffwrdd.
“Fe wnaethon ni yrru heibio’r ffrwydrad ac fe wnaeth hynny ein hatgoffa ein bod ni mewn sefyllfa beryglus tu hwnt.
“Roedd hynny yn brofiad oeraidd a dweud y lleiaf.
“Wrth gwrs, rwy’n teimlo’n lwcus ond mae fy niolch i’r lluoedd arfog oedd wir yn anhygoel”
Ras yn erbyn y cloc
Fel diplomydd mae Rhys Annett yn gweithio o ddydd i ddydd yn Llundain yn arbenigo ym maes materion polisi tramor Prydain, yn benodol gyda’r Aifft.
Ond fel aelod o dîm argyfwng y Swyddfa Dramor fe dreuliodd wythnos yn Kabul gan weithio’n ddiflino yn erbyn y cloc.
Roedd yn rhaid i filwyr y ‘Gorllewin’ adael Affganistan erbyn Awst 30 eleni.
“Roeddwn i’n gweithio tua 18 i 19 awr y dydd, ac roedd miloedd o deuluoedd i’w helpu. Roedd hi’n ras yn erbyn y cloc i orffen erbyn y 30ain o Awst ac roedd hynny’n amser pan roedd yn rhaid inni adael,” meddai.
“Bob dydd am wythnos gyfan ein swydd roedd ceisio cael cymaint o bobl ar yr awyrennau ag oeddem yn gallu i adael y wlad.
“Dim ond ers dod nôl rydw i wedi cael cyfle i ystyried a phrosesu’r sefyllfa a’r hyn fues i’n rhan ohono.”
Wrth edrych nôl ar y cyfnod fe fyddai wedi bod yn hapus derbyn ychydig yn fwy o amser oihelpu pobl oedd yn ceisio dianc, yn enwedig wrth feddwl am sefyllfa menywod a merched ifanc allan yna nawr.
Ers i’r Taliban dynhau eu gafael ar y wlad mae yna adroddiadau bod menywod wedi colli’r hawl i weithio a derbyn addysg.
“Ond eto doedden ni ddim yn gallu achub 35 miliwn o bobl ac rydw i’n falch o waith y Swyddfa Dramor ein bod wedi llwyddo i helpu cymaint o bobl mewn cyn lleied o amser,” meddai Rhys.
Er gwaethaf ei brofiadau fe fyddai’n barod i ddychwelyd yn ôl i sefyllfa debyg pe bai angen.
“Roedd y wasg yn llwyddo i gyfleu pa mor wael oedd y sefyllfa ond yn bendant dydy hynny ddim yn cymharu gyda bod yna, roedd e gymaint yn waeth o fod yno.
“Pan rydw i’n dweud wrth ffrindiau a phobl rwy’n cwrdd fy mod wedi bod yno mae pobl yn cael hi’n anodd credu fy mod i wedi dewis mynd.
“Mae’r Swyddfa Dramor yn wych yn ein hyfforddi ni, felly byddwn i yn sicr yn mynd nôl petai rhywbeth fel hyn yn digwydd eto.”