Mae trafodaethau wedi dechrau i lansio menter rhannu ceir newydd yng Nghaerdydd.

Trwy’r ‘clwb ceir’ hwnnw, byddai modd rhentu ceir neu faniau drwy wefan neu ap, mewn ffordd debyg i’r fenter Nextbike sydd yn y ddinas ar hyn o bryd.

Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu cael cwmni preifat i redeg y cynllun yn y gobaith o’i lansio erbyn haf 2022.

Byddai’r fenter yn rhan o gynlluniau ehangach y Cyngor i dorri llygredd aer ac allyriadau carbon deuocsid, a lleihau’r angen am geir personol neu breifat.

Mae buddion eraill yn cynnwys lleihau tagfeydd a chostau i yrwyr unigol gan na fyddai angen iddyn nhw brynu eu ceir eu hunain.

Clwb ceir

Cafodd clwb ceir ei lansio yng Nghaerdydd yn 2010, ond dydy hwnnw heb gyrraedd graddfa mor eang ag y mae’r cynlluniau newydd yn gobeithio ei gyrraedd.

Mae mentrau tebyg eisoes yn bodoli mewn llefydd fel Llundain, Birmingham a Bryste.

“Mae clybiau ceir yn fodel sefydledig sy’n rhoi mynediad tymor byr i aelodau clwb i gar, heb yr angen i fod yn berchen ar gerbyd preifat,” medd adroddiad gan gabinet Cyngor Caerdydd.

“Gallai peidio bod yn berchen ar gar preifat fod yn rhywbeth mwy cyffredin, Mae wrth edrych ar newidiadau cymdeithasol ehangach.

“Mae tueddiadau yn awgrymu bod pobl iau bellach yn gyrru llai, tra bod cerbydau sy’n cael eu rhannu yn dod yn fwy amlwg.

Cynllun Nextbike – sydd eisoes yn bodoli yng Nghaerdydd

“Mae’r twf mewn opsiynau o’r fath – fel cynllun Nextbike – a datblygiadau mewn technoleg wedi rhoi hwb ychwanegol yn y sector, ac mae nifer o ddarparwyr clybiau ceir wedi mynegi diddordeb mewn sefydlu menter yng Nghaerdydd.”

Ar hyn o bryd, mae’n aneglur faint o geir fydd y clwb yn eu cyflwyno, a does dim sôn am geir trydan chwaith.

Bydd y cabinet yn trafod y cynlluniau ar ddydd Iau, Hydref 14.