Mae dynes 73 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mrynbuga yn Sir Fynwy ddoe (dydd Mercher, Medi 29).

Bu farw’r ddynes, oedd yn teithio mewn Seat Ibiza lliw arian, yn y fan a’r lle ar ffordd A472 ger cyffordd yr A449.

Cafodd dyn 75 oed a dynes 45 oed oedd yn teithio yn y car eu cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ag anafiadau difrifol ond dydy eu bywydau ddim mewn perygl.

Cafodd dyn 78 oed, oedd yn gyrru Suzuki Vitara lliw arian, anafiadau i’w frest.

Mae’r tri yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ac mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth a deunydd dashcam.