Mae Prifysgol Bangor a Choleg Cambria yn cydweithio i helpu diwydiannau sydd wedi eu heffeithio’n wael gan y pandemig.
Byddan nhw’n ceisio datblygu sgiliau newydd sydd eu hangen ar ddysgwyr wrth fynd i mewn i sectorau penodol, fel gofal iechyd, technoleg neu adeiladu.
Mae’r ddau sefydliad yn gobeithio pontio’r bwlch rhwng addysg uwch ac addysg bellach, yn ogystal ag ymgysylltu â meysydd gwahanol drwy ymchwil, arloesi a busnes.
Adferiad economaidd
Daeth y cyhoeddiad am y bartneriaeth yn ystod agoriad swyddogol adeilad Hafod yn Wrecsam heddiw (dydd Iau, Medi 30) – prosiect £21m a gafodd ei ariannu gan gronfa Llywodraeth Cymru, Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Dywed Yana Williams, prif weithredwr Coleg Cambria, y byddan nhw’n cryfhau eu perthynas gyda dysgwyr a chymunedau ar draws gogledd Cymru.
“Bydd y cydweithrediad yn ceisio targedu’r rhai sydd wedi eu heffeithio mwyaf gan Covid-19, a nodi sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i ddarparu atebion drwy hyfforddiant, partneriaethau diwydiant a chyflogwyr,” meddai.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ddysgwyr ledled Gogledd Cymru fynediad at gymwysterau addysg uwch a phellach ystwyth a pherthnasol, a manteisio ar y cyfleusterau blaengar sydd gennym yn y rhanbarth hwn.
“Rydyn ni mewn amgylchedd economaidd heriol ac mae Coleg Cambria a Phrifysgol Bangor yn benderfynol o fod ar flaen y gad yn yr adferiad, ar gyfer ein myfyrwyr, staff a chymunedau.”
Potensial
Dywed yr Athro Iwan Davies, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Bangor, eu bod nhw’n ymrwymo i weithio ymhob rhan o ogledd Cymru.
“Mae ein strategaeth yn croesawu amrywiaeth yn y cyd-destun rhanbarthol ac yn ceisio darparu atebion a fydd yn pontio sectorau, yn enwedig awyrofod ac adeiladu, wrth iddyn nhw geisio adlamu o effeithiau’r pandemig,” meddai.
“Hefyd, mae’n cefnogi’r potensial ar gyfer sectorau twf fel cynhyrchu bwyd a diod, gweithgynhyrchu, peirianneg meddalwedd, gwyddoniaeth data, yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy.”