Mae pethau yn gwella yn Senedd Cymru o ran cynrychiolaeth pobol o liw – ond mae’r newid yn digwydd yn “araf deg” ac yn arafach nag yn Llundain.

Dyna farn Natasha Asghar, Aelod Ceidwadol o’r Senedd tros Ddwyrain De Cymru a’r AoS benywaidd cyntaf o leiafrif ethnig.

Hi yw merch y diweddar Mohammad Asghar, gwleidydd a gynrychiolodd yr un sedd a’r un blaid, a’r AoS gwrywaidd cyntaf o leiafrif ethnig.