Gan fod ymgyrch Cymru yn yr Ewros ar ben, mae gwersi gwleidyddol i’w ddysgu.

Mae dinasyddion Lloegr yn pleidleisio’n drwm i’r Torïaid, sef y blaid genedlaethol Seisnig, y blaid gryfaf o ddigon yn Lloegr. Mae dinasyddion yr Alban yn pleidleisio’n drwm i’w plaid genedlaethol nhw, sef yr SNP, y blaid gryfaf o ddigon yn y wlad honno. Mae dinasyddion Cymru yn rhoi eu ffydd a’u hymddiriedaeth yn y Blaid Lafur a’r Blaid Dorïaidd, pleidiau Prydeinig, a thrydydd yn y wlad yw Plaid Cymru.