Annwyl Miss Evans,

Mi bryna i win i ti, a siocledi. Mi sgwenna i gerdyn, y geiriau’n brin ac yn gynnil, a bydd yr atalnod llawn ar ddiwedd fy niolch yn atalnod llawn ar dy gysylltiad â fo. Bydd dy enw’n rhan o’i hanes, ond dyma ddiwedd trosglwyddo gofal fy mhlentyn gwerthfawr i ti rhwng naw a thri. Bydd o’n mynd i’r ysgol fawr, a byddi di’n ei weld o weithiau, yn y stryd neu yn y siop. Cyn bo hir, fe fydd o’n ddyn, a rhan o’i fachgendod yn perthyn, am byth, i ti.