‘Ynof fi, mae lluosowgrwydd.’ Dyna’r geiriau sgrifennodd y diweddar Gwyn Thomas ar achlysur agor oriel newydd Sain Ffagan, Oriel 1, ym mhell-bell yn ôl yn 2007.
Yn gam cyntaf ar ailddatblygu’r sefydliad, roedd yr oriel yn ymgais ar ddweud stori’r Gymru gyfoes: allan aeth y casys gwydr llawn cyfarpar tocio a hancesi Fictoraidd, i wneud lle i oriel olau, groesawgar, oedd yn plethu casgliadau traddodiadol gyda gwrthrychau o Gymru heddiw.