Mae S4C wedi cadarnhau y byddan nhw’n cadw’r hawliau i ddangos holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am y pedair blynedd nesaf.
Mewn cytundeb sy’n parhau tan o leiaf 2025, mae’r darlledwr wedi cyhoeddi mai nhw fydd yr unig sianel i ddangos holl gemau Cymru yn y Chwe Gwlad ar ôl sicrhau cytundeb gyda’r BBC ac ITV.
Roedd pryderon wedi bod y byddai’r Chwe Gwlad yn cael ei darlledu ar sianeli ffrydio preifat, yn hytrach nag ar sianeli teledu rhad ac am ddim fel y BBC, ITV ac S4C, unwaith y byddai’r cytundeb blaenorol yn dod i ben.
Mae’n debyg bod y BBC ac ITV mewn trafodaethau gydag Ofcom ar hyn o bryd i sicrhau cytundeb darlledu newydd i ddangos holl gemau’r Chwe Gwlad ar y sianeli hynny.
Bydd gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth yn 2022 oddi cartref yn Iwerddon ar ddydd Sadwrn, Chwefror 5.
‘Newyddion gwych’
Mae Catrin Heledd, cyflwynydd rhaglen Clwb Rygbi Rhyngwladol, yn hapus gyda’r cyhoeddiad.
“Mae hyn yn newyddion gwych i rygbi yng Nghymru,” meddai.
“I lot fawr o gefnogwyr rygbi, y Chwe Gwlad yw uchafbwynt y flwyddyn. Mae’n fraint i gael bod yn rhan ohono ac yn ran o’r ddarpariaeth iaith Gymraeg.
“Cymru yw’r pencampwyr presennol ond mae’r gystadleuaeth yn fwy ffyrnig nag erioed.
“Ry’n ni’n gobeithio cael eich cwmni yn Nulyn ar gyfer y gêm agoriadol.”
‘Cefnogi ein timoedd’
Bydd Clwb Rygbi Rhyngwladol, sydd yn gynhyrchiad BBC Cymru, hefyd yn dangos dwy o gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y merched yn 2022, yn ogystal â thair o gemau Cymru yn y Chwe Gwlad Dan 20.
“Mae’r Chwe Gwlad Guinness yn bencampwriaeth rygbi rhyngwladol sydd yn llawn angerdd a chyffro, ac mi rydyn ni’n hapus iawn i ymestyn ein perthynas hir gyda’r gystadleuaeth,” meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C.
“Mae’r cytundeb newydd yn cwblhau portffolio rygbi ar S4C, sydd yn cynnwys rygbi colegau, rygbi’r clybiau yn yr Uwch Gynghrair Indigo, rygbi rhanbarthol yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ac Ewrop, a rygbi rhyngwladol.
“Mae S4C yn hynod o falch i gefnogi ein timoedd cenedlaethol a rygbi Cymru ar bob lefel.”
‘Elfen sylfaenol o’n strategaeth’
Mae Steve Phillips, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, yn credu ei bod hi’n hanfodol dangos y gemau drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae’r ddarpariaeth o ddarlledu gemau yn yr iaith Gymraeg yn elfen sylfaenol o’n strategaeth ar gyfer rygbi yng Nghymru ac mae’r newyddion yma gan S4C yn cael ei groesawu’n fawr,” meddai.
“Mae S4C yn chwarae rhan hollbwysig yn cefnogi rygbi yng Nghymru, o gemau’r clybiau i’r timoedd proffesiynol, y timoedd ieuenctid i’r timoedd rhyngwladol y dynion a’r menywod, ac rydyn ni’n ddiolchgar dros ben am eu cefnogaeth ym mhob un o’r elfennau yma.”