Mae Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol wedi canmol y “diwylliant iach” o fewn yr academïau sirol, wrth iddyn nhw ddechrau cyflwyno rhaglenni amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae gan y rhaglen gefnogaeth y cyn-chwaraewr a sylwebydd Michael Holding, ac fe fydd yn cael ei chyflwyno i’r 18 sir dosbarth cyntaf yn y pen draw.
Cafodd cynllun gweithredu Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ei gyhoeddi fis diwethaf wrth ymateb i honiadau gan Azeem Rafiq, cyn-chwaraewr Swydd Efrog, sydd wedi datgelu diwylliant o hiliaeth sefydliadol yn mynd yn ôl rai degawdau.
Arweiniodd hyn at gyn-chwaraewyr sawl sir yn adrodd am brofiadau tebyg.
Daeth yr ymweliad cyntaf, ag Academi Clwb Criced Swydd Gaerlŷr, ar Dachwedd 16, ar y diwrnod pan ddatgelodd Azeem Rafiq faint y broblem wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan.
Ceisio barn
Yn ôl Charlie Mulraine, prif reolwr datblygiad personol Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol, maen nhw’n awyddus i fynd yn ôl at academïau’r holl siroedd dosbarth cyntaf i geisio barn chwaraewyr am yr helynt hiliaeth.
“Fe fu’n eithriadol o bositif ac ysbrydoledig gweld y fath ddiwylliant iach yn ein hacademïau,” meddai.
“Mae yna ddealltwriaeth fod tynnu coes mewn ffordd iach yn bwysig, ond mae cydbwysedd a dealltwriaeth ynghylch ble mae’r ffiniau mewn amgylcheddau cefnogol.
“Mae’r straeon newyddion diweddar wedi tynnu sylw at y ffaith fod angen i griced edrych arni ei hun, ac mae addysg wrth galon hynny fel y gwelsom ni o’r sesiynau hyn.”
Rhaglen addysg
Mae’r rhaglen addysg yn cynnwys fideo, lle mae Michael Holding yn annerch y gwylwyr, tra bod chwaraewyr hefyd yn cael blas ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chod gwrth-wahaniaethu Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.
Mae nifer o bobol flaenllaw yn y siroedd wedi croesawu’r rhaglen, gan gynnwys Tauseef Katarai o Academi Swydd Derby, sy’n dweud bod “angen i’r sgyrsiau hyn ddigwydd”.
Yn ôl Ahmed Mehmood, ffigwr blaenllaw yn Uwch Gynghrair Quaid e Azam yn Swydd Efrog fu’n rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor seneddol, mae pobol o dras Asiaidd “yn teimlo fel estroniaid”, hyd yn oed ar lawr gwlad lle nad oes “undod” o fewn y timau ac mae hynny’n achosi i chwaraewyr adael eu clybiau a throi eu cefnau ar y gêm yn llwyr.