Mae Rob Davies wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo o fod yn gadeirydd y Gweilch ac o’i rôl ar Fwrdd Rygbi Proffesiynol rygbi Cymru.

Bydd Nick Garcia, prif weithredwr y Gweilch, bellach yn cynrychioli’r rhanbarth ar Fwrdd Rygbi Proffesiynol rygbi Cymru.

Helpodd Rob Davies i lansio’r Gweilch ar ddechrau rygbi rhanbarthol yn 2003, a chymerodd rôl cadeirydd Mike James ym mis Mawrth 2019.

Er bod Rob Davies yn camu o’r neilltu o fod yn gadeirydd, bydd yn parhau ar fwrdd y Gweilch.

‘Taith anhygoel’

“Mae’r Gweilch wedi bod ar daith anhygoel hyd yma,” meddai Rob Davies.

“O lansio’r rhanbarth o ddau glwb gyda thraddodiadau a hanes hir [Abertawe a Chastell-nedd], daliwyd dychymyg y cefnogwyr a datblygodd un o’r brandiau mwyaf cydnabyddedig a deinamig ym myd rygbi.

“Rwyf mor falch o’r hyn y mae pawb wedi’i gyflawni ac rwy’n gwybod bod y Gweilch bellach yn barod ar gyfer y penodau nesaf a mwy cyffrous i ddod.

“Does dim dwywaith bod rygbi proffesiynol ar drothwy cyfnod byd-eang newydd ac mae’n rhaid iddo addasu i fanteisio’n llawn ar hyn er mwyn cael llwyddiant mewn marchnad chwaraeon cystadleuol.

“Mae hynny’n golygu harneisio arbenigedd o’r tu allan i rygbi, o’r byd busnes a chwaraeon, i ddarparu arbenigedd go iawn ac i osod sylfeini ar gyfer dyfodol cyffrous a chynaliadwy.”